Neidio i'r cynnwys

'Steddfod! 'Steddfod! (ffilm)

Oddi ar Wicipedia
'Steddfod! 'Steddfod!
Enghraifft o:ffilm Gymraeg
Dyddiad cynharaf1989
AwdurCaryl Parry Jones a Tony Llywelyn
CyhoeddwrS4C
Dyddiad cyhoeddi1989 Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaEisteddfod Genedlaethol Cymru
Hyd86 munud
Cyfarwyddwr/wyrRonw Protheroe
CyfansoddwrMyfyr Isaac
Iaith wreiddiolCymraeg Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Ffilm Gymraeg a gynhyrchwyd gan Uned Adloniant HTV yw 'Steddfod! 'Steddfod! a ryddhawyd ym 1989. Caryl Parry Jones a Tony Llewelyn oedd yn gyfrifol am y sgript, a Caryl ei hun oedd yn portreadu'r rhan fwyaf o'r cymeriadau oedd eisoes yn adnabyddus i gynulleidfa S4C, yn sgil ei chyfresi comedi ar y sianel a'r ffilm Ibiza Ibiza. Yn ymuno â Caryl ar y sgrin roedd Siw Huws, Islwyn Morris, Emyr Wyn, Phylip Harries a nifer fawr o wynebau cyfarwydd o'r maesydd Eisteddfodol a Diwylliannol yng Nghymru. Y mae'r ffilm bellach yn cael ei hystyried fel un o glasuron comedi S4C.[1][2]

Crynodeb

[golygu | golygu cod]
Phylip Harries fel 'Dewi John' yn 'Steddfod! 'Steddfod!

Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Cymru y Barri 1968, mae bachgen ifanc [Dewi John] yn cael "cam" anferthol ar gystadleuaeth adrodd, ac yn sgil cerydd gan ei fam, mae yntau'n penderfynu bod rhaid iddo "ddial" am sarhad y beirniad "S.O. Hughes", weddill ei oes. Mae'r stori'n dilyn ei ymdrechion i ddal y beirniad, tra ar ymweliad cwta â Chymru, ac yn ystod ei ymgeision, mae nifer o wynebau cyfarwydd Cymru, yn dod i ganol y llanast.

Glenys (Caryl Parry Jones) gyda Dan Puw a Bethan Bryn

Paratoi ar gyfer mynychu'r Eisteddfod Genedlaethol mae'r holl gymeriadau ar gychwyn y ffilm. Mae Lavinia ac Enfys yn darparu lluniaeth i Gôr Meibion Llanelli [sy'n cynnwys tad Lavinia], tra bod Eleri ac Anwen yn glanhau'r "trelar" ar eu ffarm. Ceisio bachu lifft i'r Eisteddfod mae'r ddwy ferch ysgol Delyth a Bethan, tra bod yr Eisteddfodwyr profiadol Rhisiart a Glenys yn glanhau a llwytho'r garafán, gan edrych ymlaen am yr Ŵyl. Cawn wybod bod gan Rhisiart rôl anrhydeddus iawn eleni, a "chyfrinach fawr" i'w datgelu.

Delyth (Caryl Parry Jones) a Bethan (Siw Hughes) yn achub Rhisiart (Emyr Wyn) yn 'Steddfod! 'Steddfod!

Gwersylla yw dewis Delyth a Bethan, a'r Maes Carafannau yw noddfa Rhisiart a Glenys. Mewn Gwesty mae Lavinia ac Enfys tra bod Anwen ac Eleri am dreulio'r wythnos yn eu "trelar" ffermio!.

Eleri (Siw Hughes) ac Anwen (Caryl Parry Jones) yn y ffilm 'Steddfod! 'Steddfod!

Mae Dewi John yn llwyddo i dorri mewn i Faes yr Eisteddfod liw nos, er mwyn dod i wybod mwy am ymweliad S. O. Hughes â'r Eisteddfod. Mae'n canfod y cynlluniau a'r trefn llwyfan ar gyfer ei Seremoni, ac mae'n penderfynu ceisio cael mynediad i'r Seremoni, drwy'r rhai sy'n cymryd rhan. Gan bod ein holl gymeriadau yn rhan ohoni, mae ei ymdrechion yn dod â'i gynlluniau truenus i lwybrau pawb.

Ceisio bod yn aelod o Gôr Meibion Llanelli yw tasg cyntaf Dewi John, ond mae'n dewis gwisg Côr Meibion Pontarddulais, ac yn cael ei ddal. Delyth yw'r ail ymgais, a thrwy geisio ei thwyllo fel bod yn reolwr y grŵp Wenfflam, mae'n ceisio ei dennu i fod yn lais cefndir iddynt, cyn cael ei ddal unwaith eto. Anwen ac Eleri ydi'r drydedd ymgais, ac wedi ffugio bod yn ffermwr, gan geisio eu hudo, mae'n derbyn gwybodaeth mai Rhisiart yw enillydd Gwobr S. O. Hughes. Felly, Rhisiart fydd ei ymgais olaf i ddial ar ei gyn-feirniad.

Wedi gweld Rhisiart yn cystadlu yn Y Babell Lên, mae Dewi John yn ffugio mai ef yw Rhisiart, ac yn ei herwgipio a'i gloi mewn cwpwrdd. Rhydd hyn ryddid i Dewi John gyrraedd y llwyfan a wynebu S. O. Hughes ar ôl yr holl flynyddoedd. Ond tra bod Dewi yn bygwth S. O. Hughes, mae Delyth a Bethan yn achub y dydd drwy achub Rhisiart a'i ryddhau.

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Dilyniant i'r ffilm gomedi Ibiza, Ibiza ydi hon.

Cynhyrchu

[golygu | golygu cod]

Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Cymru Casnewydd 1988 y cafodd y ffilm ei saethu. Cawn olwg cyson ar fwrlwm y Maes. Mae lleoliadau eraill yn cynnwys Gwesty'r Bear, Y Bontfaen a Stwidio HTV yng Nghroes Cwrlwys.

Gerallt Lloyd Owen a gyfansoddodd llawer o'r Cywyddau a'r gynghanedd yn y sgript.[2]

Enfys (Siw Hughes) a Lavina (Caryl Parry Jones) a'i thad (Islwyn Morris) yn y ffilm 'Steddfod! 'Steddfod!

Cymeriadau

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Clic". www.s4c.cymru. Cyrchwyd 2025-08-06.
  2. 2.0 2.1 Gwefan S4C - ail ddarllediad o'r ffilm yn 2025

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]