Tyrcestan
Appearance
(Ailgyfeiriad o Twrcestan)
Math | rhanbarth, ardal hanesyddol ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Cyfesurynnau | 39.365733°N 67.955584°E ![]() |
![]() | |
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/85/%D8%AE%D8%B1%D9%8A%D8%B7%D8%A9_%D8%AA%D8%B1%D9%83%D8%B3%D8%AA%D8%A7%D9%86_%D8%A7%D9%84%D8%B4%D8%B1%D9%82%D9%8A%D8%A9_%D9%88_%D8%A7%D9%84%D8%BA%D8%B1%D8%A8%D9%8A%D8%A9.png/220px-%D8%AE%D8%B1%D9%8A%D8%B7%D8%A9_%D8%AA%D8%B1%D9%83%D8%B3%D8%AA%D8%A7%D9%86_%D8%A7%D9%84%D8%B4%D8%B1%D9%82%D9%8A%D8%A9_%D9%88_%D8%A7%D9%84%D8%BA%D8%B1%D8%A8%D9%8A%D8%A9.png)
Rhanbarth hanesyddol yng Nghanolbarth Asia sy'n gartref i bobloedd Dyrcig yr ardal honno yw Tyrcestan.[1] Ffiniau'r rhanbarth yw Siberia i'r gogledd; Tibet, India, Affganistan, ac Iran i'r de; anialwch y Gobi i'r dwyrain; a Môr Caspia i'r gorllewin. Nid oedd Tyrcestan yn cynnwys yr holl bobloedd Dyrcig, gan yr oedd y Tyrciaid yn byw yng nghyn-Ymerodraeth yr Otomaniaid a'r Tyrco-Tatariaid yn byw ger Afon Volga. Roedd pobloedd eraill yn byw yn Nhyrcestan nad oeddynt yn Dyrcig, megis y Tajiciaid. Rhennir Tyrcestan yn ddau gan fynyddoedd Pamir a Tien Shan. Heddiw mae Gorllewin Tyrcestan yn cynnwys Tyrcmenistan, Wsbecistan, Tajicistan, Cirgistan, a de Casachstan, ac mae Dwyrain Tyrcestan yn cynnwys Xinjiang yng Ngweriniaeth Pobl Tsieina.[2]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 1540 [Turkestan].
- ↑ (Saesneg) Turkistan. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 20 Ionawr 2015.