Eirisgeidh
Appearance
(Ailgyfeiriad o Eriskay)
![]() | |
Math | ynys, Cyngor Cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 143 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ynysoedd Allanol Heledd ![]() |
Sir | Ynysoedd Allanol Heledd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 700 ha ![]() |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd, Sea of the Hebrides ![]() |
Cyfesurynnau | 57.075°N 7.29°W ![]() |
![]() | |
Ynys yn Ynysoedd Allanol Heledd yng ngogledd-orllewin yr Alban yw Èirisgeidh (Saesneg: Eriskay). Saif rhwng ynysoedd mwy De Uist a Barraigh, a chysylltir hi a De Uist gan gob a adeiladwyd yn 2001[1]. Mae siop, eglwys a Chanolfan Gomuned ar Eirisgeidh. Mae fferi Caledonian MacBrayne rhwng Ceann a' Ghàraidh ar Eirisgeidh ac Ardmore ar Barraigh.[2] Poblogaeth Èirisgeidh yn 2001 oedd 133.
Er mai ynys fechan ydyw, mae'n adnabyddus am nifer o resymau. Yma y glaniodd Charles Edward Stuart (Bonnie Prince Charlie) gyda saith o gymdeithion ar 23 Gorffennaf 1745 i ddechrau gwrthryfel y Jacobitiaid. Yn 1941, yma y bu llongddrylliad yr SS Politician gyda'i chargo o wisgi; digwyddiad a anfarwolwyd yn Whisky Galore.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/0/0c/Eriskay_%28South_Uist_and_Barra%29.svg/200px-Eriskay_%28South_Uist_and_Barra%29.svg.png)
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/0/02/Eriskay01LB.jpg/260px-Eriskay01LB.jpg)
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/2/2f/Eriskay02LB.jpg/260px-Eriskay02LB.jpg)