Sarhad

Oddi ar Wicipedia

Term cyfreithiol yng Nghyfraith Hywel yw sarhad neu sarhaed. Gallai olygu anaf neu anfri ar berson, neu’r taliad oedd yn ddyledus iddo fel iawndal am yr anaf neu’r anfri. Roedd maint y sarhad yn amrywio yn ôl statws y person oedd wedi ei effeithio, er enghraifft roedd sarhad y frenhines neu’r edling yn draean sarhad y brenin.

Eginyn erthygl sydd uchod am y gyfraith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Chwiliwch am sarhad
yn Wiciadur.