Rhinwedd

Oddi ar Wicipedia

Priodoledd ddaionus neu nodwedd ragorol, yn enwedig o safbwynt moesegol neu ddiwinyddol, yw rhinwedd.[1] Roedd syniad y bywyd rhinweddol yn sail i ddamcaniaeth foesol Aristotlys, ac mae ffurfiau ar foeseg rinweddol yn ddylanwadol hyd heddiw. Yn y traddodiad athronyddol a chrefyddol Ewropeaidd, ceir y pedair prif rinwedd sy'n tarddu o'r hen Roegiaid: pwyll, cyfiawnder, dirwest a chryfder neu nerth enaid. Sonir Cristnogion am dair rinwedd ychwanegol – ffydd, gobaith a chariad – gan ffurfio'r saith rinwedd a gyferbynnir â'r saith pechod marwol.[2] Ym maes athroniaeth wleidyddol, sonir am y rhinwedd ddinesig: yr agwedd a'r tymer sy'n addas wrth weithredu'r drefn wleidyddol yn effeithiol.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  rhinwedd. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 30 Tachwed 2016.
  2. (Saesneg) virtue (in Christianity). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 30 Tachwedd 2016.
  3. (Saesneg) civic virtue. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 30 Tachwedd 2016.