Impio

Oddi ar Wicipedia
Coeden a chanddi flodau o wahanol liwiau o ganlyniad i impio.

Yr arfer arddwrol o osod i mewn neu blannu blaguryn neu ysbrigyn wedi ei dorri o un goeden ym moncyff neu mewn rhyw ran o bren arall, fel ag i ffurfio undeb bywiol rhyngddynt a pheri iddynt gynhyrchu ffrwythau cyfatebol i'r naill a'r llall, yw impio.[1] Fel hyn, gellir torri i lawr goeden ag y mae ei ffrwyth yn fychan a chwerw, ac impio arno flaguryn oddi ar goeden ag y mae ei ffrwyth yn fawr ac yn beraidd. Wrth ei faethu, ond nid ei gyfnewid mewn un o'i nodweddion hanfodol, ffurfia y blaguryn hwn bren a gynhyrcha yn y diwedd ffrwyth cyffelyb ym mhob ystyr i ffrwyth y pren oddi ar ba un y cymerwyd ef ar y cyntaf.

Gyda golwg ar ffrwythau diwylliedig, yn ogystal ag amryw ddosbarthiadau o blanhigion addurniadol, y mae eu lluosogiad drwy hadau yn beth tra ansicr, ac o barthed i blanhigion cymysgryw, y mae bron yn annichonadwy, o leiaf, nid oes sicrwydd yr atgynhyrchir yr un rhywogaeth. Ond yn y gwrthwyneb, y mae tuedd wastadol yn cael ei hamlygu ynddynt i ddychwelyd i sefyllfa wyllt naturiol eu rhyw. Impio mewn rhai enghreifftiau ydyw yr unig foddion, ac maen lliaws y moddion mwyaf effeithiol, i atal hyn. Drwy hyn y mae rhagoriaeth a phereidd-dra y ffrwyth, neu liw prydferth y blodeuyn, yn cael ei ddiogelu. Wrth roddi'r impyn mewn lle cymwys, o dan amgylchiadau ffafriol i dderbyn cyflawnder o faeth newydd a phriodol y gall ymborthi arno, y mae ei alluoedd yn cryfhau, ac yn ymddatblygu mewn dail, blodau, a ffrwyth. Wrth ystyried y pethau hyn, y mae pwysigrwydd a defnyddioldeb y gwaith o impio yn ymddangos yn bur amlwg.

Gyda golwg ar y terfynau o fewn pa rai y gellir impio yn llwyddiannus, cynhwysa goed a phlanhigion o'r un rhywogaeth yn yr un dosbarth, ond fe'i cyfyngir i'r drefn naturiol hon. Gan hynny, y mae adroddiadau'r hynafiaid, eu bod yn impio yn llwyddiannus yr olewydd ar y ffigyswydd, yr eirinen ar yr ellygen, a'r cyffelyb, yn anghredadwy. Dadleua naturiaethwyr diweddar na ddichon yr anghysonderau hyn fodoli; ac y mae llawer o arbrofion a wnaed yn sicrhau fod eu haeriadau yn gywir. Yr oedd yr hen Rufeiniaid i raddau yn deall ac yn arfer y gelfyddyd o impio, ond y mae'n amlwg eu bod ar yr un pryd yn dra anwybodus yn ei hegwyddorion, o blegiad y mae Plinius yr Hynaf yn gwneud crybwylliad am ryw afalau yn ei amser ef mor gochion, fel yr oeddynt yr un lliw â gwaed; a'r rheswm a rydd efe dros hynny yw eu bod wedi eu himpio ar foncyff y ferwydden. Gwelwyd bedwen cyn hyn yn ei sefyllfa naturiol yn tyfu allan o'r geirioswydden, ond wrth chwilio a manylu, yr oedd yn hawdd canfod i hedyn y fedwen ddisgyn i agen yn y pren, a dod i gyffyrddiad â darn pydredig ohono, ac o ganlyniad i hynny wreiddio a blaguro. Mewn modd cyffelyb, mae'r Eidalwyr yn gwneud i'r olewydd, yr iasmin, y rhosyn, a'r grawnafal, gyd-dyfu ar yr orenwydden. Gellir sylwi hefyd y dichon blagur flodeuo a byw ar goed o natur wahanol iddynt, dros ychydig amser; eithr nid ydy'r fath undeb byth yn parhau, ond yn unig am dymor byr.

Y mae impio pren o rywogaeth wan ar un a fyddo yn naturiol yn fwy grymus, yn tueddu i'w gryfhau. Dylid gwybod a thalu sylw i'r gallu hwn i ddylanwadu sydd gan y boncyff ar yr impin: er enghraifft, os plennir coed afalau surion mewn gardd fechan, ac impio coed afalau arnynt, o bosibl na bydd iddynt dyfu yn fuan i faintioli gormodol. Ar y llaw arall, impier pren afalau ar goeden afalau surion Ffrengig, y lleiaf o'r holl genws honno, ac yna gellir ei dyfu mewn lle bychan iawn. Heblaw hynny, y mae gwreiddiau'r diweddaf yn feinion, ac yn rhedeg yn agos i'r wyneb, ac felly yn eu gwneud yn fanteisiol i'w plannu mewn tir bas ac ysgafn. Mae llawer o rywogaethau amrywiol o ffrwythau a phlanhigion addurniadol, brodorion hinsoddau tynerach, y gellir yn fanteisiol eu himpio ar goed caletach, megis yr eirinen wlanog a'r fricyllen ar yr eirinen, a rhosynnau Tsieina ar goed rhosynnau gwylltion Ewropeaidd.

Mae'n eithaf hysbys fod gan eginyn planhigyn gymwysterau i ddyfod yn blanhigyn ei hun, ar ôl ei ysgaru oddi wrth y fam blanhigyn, os gosodir ef mewn amgylchiadau ffafriol i ymddatblygu. Ond nis gall dyfu os na bydd y rhan a gymerir o'r planhigyn yn cynnwys naill ai eginyn neu ynte elfennau un, a'r rhai hynny wedi eu perffeithio. Gan hynny, y mae'n rhaid fod yr hyn a fwriedir i dyfu yn cynnwys eginyn neu egin.

Credir yn gyffredin, er fod y boncyff a'r blaguryn yn ymuno yn gyfluniol drwy'r weithred o impio, eto mai'r unig effaith sydd yn dilyn yr oruchwyliaeth ydy'r hyn a all godi oddi wrth yr arafwch neu'r prysurdeb â'r hwn y mae'r boncyff yn goddef i'r sudd ymgodi i'r gangen. Crediniaeth gyffredinol hefyd ydy nad yw'r gangen mewn un modd yn effeithio nac yn dylanwadu ar y boncyff.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  impio. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 15 Ionawr 2022.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun sydd wedi ei addasu o Y Gwyddoniadur Cymreig, cyhoeddiad sydd yn y parth cyhoeddus.