Golwg

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Gweld)

Y gallu i weld a chanfod yr hyn sy'n ymddangos o fewn golau gweladwy yw golwg neu weithiau gwelediad. Yn draddodiadol, fe'i ystyrir yn un o synhwyrau'r corff.

Mae nifer o anifeiliaid yn gweld â'u llygaid. Mae cornbilen a lens y llygad yn plygu golau i'w ffocysu i'r retina, sydd yna'n casglu signalau'r golau ac yn eu danfon fel signalau trydanol i'r nerf optig, ac yna i'r ymennydd, sy'n eu prosesu i ganfod yr hyn a welir.[1]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) How the eye works. RNIB (13 Gorffennaf 2011). Adalwyd ar 11 Medi 2012.
Chwiliwch am golwg
yn Wiciadur.