Dysg

Oddi ar Wicipedia

Mae Dysg, sef yr asiantaeth dysgu a sgiliau Cymru yn darparu cymorth i ddarparwyr addysg a hyfforddiant ôl-16 oed. Mae gwefan Dysg yn le da i ddarganfod gwybodaeth gyfredol am addysgu a hyfforddiant yng Nghymru.

Ymunodd Dysg â Llywodraeth Cynulliad Cymru ar 1 Ebrill 2006. Mae Dysg yn un o is-adrannau'r Adran Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (AADGOS), sy'n canolbwyntio ar wella ansawdd addysgu a dysgu yn y sector addysg a hyfforddiant ôl-14. Dysg oedd adain weithredol yr Asiantaeth Dysgu a Datblygu Sgiliau (LSDA) yng Nghymru. Mae gwefan Dysg yn le da i ddarganfod gwybodaeth gyfredol am addysgu a hyfforddiant yng Nghymru.

Mae Dysg yn cynnal nifer o rwydweithiau a chynadleddau sy'n canolbwyntio ar wella'r ddarpariaeth dysgu ôl-14 drwy rannu gwybodaeth a sgiliau ymhlith ymarferwyr, gwneuthurwyr polisi a rhanddeiliaid eraill.

Drwy'r prosiect Ymgynghorwyr Gwella Perfformiad, mae Dysg yn darparu gwasanaeth ymgynghoriaeth, hyfforddiant a chymorth mentora wedi'i dargedu i ddarparwyr. Rhagor. Mae Dysg yn cynnal Rhaglenni Cymorth Sgiliau Allweddol, sy'n anelu at wella ansawdd addysgu a dysgu ar draws pob rhaglen sgiliau allweddol ôl-14 mewn ysgolion, ym maes addysg bellach ac ym maes dysgu seiliedig ar waith.

Mae Dysg yn rheoli'r rhaglen hyfforddiant sy'n darparu cymorth ym maes hunan-asesu a llunio cynlluniau gweithredu, sy'n galluogi darparwyr ôl-16 i gynnal hunan-asesiadau a llunio cynlluniau gweithredu effeithiol.

Mae Dysg yn helpu i rannu a throsglwyddo gwybodaeth drwy ddosbarthu e-gylchlythyr wythnosol, cynnal blog, cyhoeddi gwaith ymchwil ar y we a chynhyrchu cyfnodolyn chwarterol er mwyn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau ym maes addysg a hyfforddiant ôl-14 yng Nghymru a Lloegr.

Mae Dysg yn cynnal prosiectau ymchwil ac adolygiadau penodol sy'n diwallu anghenion byrdymor a thymor hwy Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]