Dimensiwn

Oddi ar Wicipedia
Mae'r diagramau hyn yn cynrychioli gwrthrychau gwahanol yn ôl eu dimensiynau.
* pwynt (0 dimesnsiwn);
* llinell (1 dimensiwn),
* sgwâr (2 ddimensiwn);
* ciwb (3 dimensiwn);
* teseract (3 dimesiwn).

Mewn ffiseg a mathemateg, mae dimensiwn gofod neu wrthrych yn cael ei ddiffinio'n anffurfiol fel yr isafswm o gyfesurynnau sydd eu hangen i bennu unrhyw bwynt oddi fewn i'r gofod (neu wrthrych).

Felly:

  • Un dimensiwn: mae gan linell ddimensiwn o un oherwydd mai dim ond un cyfesuryn sydd ei angen i bennu pwynt arno e.e. y pwynt 5 ar linell rif.
  • Dau ddimensiwn: mae gan arwyneb fel plân, silindr neu sffêr ddimensiwn o ddau - oherwydd bod angen dau gyfesuryn i bennu pwynt arno - e.e. mae angen lledred a hydred i ddod o hyd i bwynt ar wyneb sffêr.
  • Tri dimensiwn: mae tu mewn ciwb, silindr neu sffêr yn dri dimensiwn oherwydd bod angen tri chyfesuryn i leoli pwynt o fewn y gofod hwn.

Dimensiwn gofodol[golygu | golygu cod]

Mae damcaniaethau ffiseg clasurol yn disgrifio tri dimensiwn ffisegol. O bwynt y gofod, gallwn symud, yn ffisegol, i dri chyfeiriad: i fyny / i lawr, i'r chwith / i'r dde, ac ymlaen / yn ôl. Gellir mynegi pob symudiad i gyfeiriad arall yn nhermau'r tri hyn. Mae symud i lawr yr un peth â symud i fyny pellter negatif ayb. Mae symud yn groeslin i fyny ac ymlaen yn union fel y mae enw'r cyfarwyddyd yn ei awgrymu; hynny yw, symud mewn cyfuniad llinellol o fyny ac ymlaen. Yn ei ffurf symlaf: mae llinell yn disgrifio un dimensiwn, mae plân yn disgrifio dau ddimensiwn, ac mae ciwb yn disgrifio tri dimensiwn.

Sawl
dimensiwn
Systemau cyfesurynnol
1
Llinell rif
Llinell rif
Ongl
Ongl
2

Cartesaidd (dau ddimensiwn)
System polar
Polar
Geographic system
Hydred a lledred
3
System Cartesaidd
Cartesaidd (tri dimensiwn)
System silindriog
System silindriog
System sfferig
System sfferig

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]