Cildwrn

Oddi ar Wicipedia
Cildwrn
MathIncwm Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Arian wedi ei adael ar y bwrdd: ffordd gyffredin o roi cildwrn.

Arian a roddir yn wirfoddol i weithwyr yn y diwydiant trydyddol ar ben y gost derfynol am wasanaeth maent wedi ei berfformio yw cildwrn e.e. yr arian a roddir i wasanaethferch mewn tŷ bwyta.[1] Mae'r swm a roddir yn fater o ddefod gymdeithasol sy'n amrywio rhwng gwledydd ac yn ôl amgylchiadau. Mewn rhai llefydd, ystyrir rhoi cildwrn yn sarhaus; mewn llefydd eraill, fe'i disgwylir gan y cwsmer. Dan amgylchiadau penodol, fel gyda'r heddlu neu aelod o lywodraeth, mae rhoi, a hyd yn oed cynnig, cildwrn yn anghyfreithlon, ac yn gyfystyr â llwgrwobrwyaeth.

'Gweld rhywbeth yn rhannol' ydy ystyr 'cil', a chyfeirir yma at y drefn o hanner cuddio'r arian o fewn llaw caeedig.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  cildwrn. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 30 Hydref 2014.
Eginyn erthygl sydd uchod am arian. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.