Ambr

Oddi ar Wicipedia
Ambr
Mathfossil resin Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Tlysau crog ambr

Ffosil resin sydd ddim yn mwyn ond yn cael ei ddefnyddio i wneud tlysau yw ambr (Cymraeg Canol: gwefr). Yn ogystal ag ambr naturiol mae ambr artiffisial neu ffug sydd yn yml iawn i'r hyn naturiol.

Mae'r Môr Baltig yn enwog iawn am ei ambr. Heddiw, ceir llawr ohono ei cloddio ar pentir mawr ger Kaliningrad (Rwsia), yn bennaf ger Jantarnij. Mae ambr y Môr Baltig wedi ffurfio o resin conwydd hyd at 260 miliwn o flynyddoedd yn ôl a weithiau mae'n cynnwys ffosiliau planhigion neu anifeiliaid - yn bennaf pryfed - oedd yn sefyll ar y coeden pan ddaeth y resin allan.

Nodweddion[golygu | golygu cod]

Fel arfer mae ambr yn melyn neu lliw arian, ond mae rhai sydd yn dipyn o goch neu brown, hefyd. Gall e fod yn dryloyw neu yn gymylog, ond mae ambr sydd yn dipyn o las yn brin iawn. Mae lliw wyneb ambr yn newid ac yn tywyllu trwy ocsigen a goleuni. O'r diwedd, mae ei hwyneb yn caledu ac yn cracio.

Mae'n bosib llosgi ambr naturiol a mae'r fflam yn ddilglair iawn, ond yn cynhyrchu llawer o huddygl. Er fod ambr yn meddal iawn mae e'n troi i mater du, caled wedi ei llosgi.

Mae ambr yn ysgafn iawn a mae ei dwysedd yn isel. Am hynny, mae e'n arnofio ar dŵr halen er yn boddi mewn dŵr ffres.

Pan yn rwbio ambr gan brethyn gwlân neu lledr, ceir gwefr electrostatig ar ambr ac o ganlyniad mae'n atynnu llwch a darnau papur.

Ffosiliau mewn ambr[golygu | golygu cod]

Morgrugyn ffosil (Zigrasimecia ferox) 99 miliwn blwydd oed mewn ambr o Fyanmar.

Mae priodoleddau ambr yn unigryw ar gyfer cadw olion a gweddau organebau byw (anifeiliaid, planhigion a microbau) am filiynau o flynyddoedd. Ym mis Awst 2012 cyhoeddwyd[1] darganfyddiad olion widdon 230 miliwn (Ma) oed. Ar y pryd y rhain oedd y ffosilau ambr anifail hynaf. Yn 2016 cyhoeddwyd[2][3] darganfyddiad olion adenydd adar mewn ambr 99 miliwn blwydd (Ma) oed o ogledd-ddwyrain Myanmar. O fanylion y llaw, deallir mai o ddosbarth yr enantiornithin y dônt. Y rhain oedd un o ddosbarthiadau mwyaf yr adar yn ystod y cyfnod Cretasaidd. Diflannodd yr enantiornithin gyda'r dinosoriaid 66 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Chwiliwch am Ambr
yn Wiciadur.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Rachel Kaufman (2012) National Geographic. Triassic Mites Join World's Oldest Amber Animal Finds (Lluniau). http://news.nationalgeographic.com/news/2012/08/pictures/120828-oldest-amber-animals-science-proceedings-arthropod-triassic/
  2. (Saesneg) Lida Xing et al (2016),Mummified precocial bird wings in mid-Cretaceous Burmese amber. Nature Communications 7, erthygl rhif 12089 doi:10.1038/ncomms12089 http://www.nature.com/ncomms/2016/160628/ncomms12089/full/ncomms12089.html
  3. (Saesneg) Paul Rincon, gwefan BBC News (28/6/2016) Ancient birds' wings preserved in amber. http://www.bbc.co.uk/news/science-environment-36651471.