Afon Banwy

Oddi ar Wicipedia
Afon Banwy
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.7°N 3.3°W Edit this on Wikidata
AberAfon Efyrnwy Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Twrch Edit this on Wikidata
Map

Afon yng ngogledd-orllewin Powys yw Afon Banwy.

Mae'n tarddu yn y bryniau ger y bwlch sy'n cludo'r A458 rhwng Mallwyd a'r Trallwng. Nant Cerrig-y-groes yw enw'r afon yn ei tharddle ger Moel y Llyn. Mae'n llifo i'r dwyrain wedyn. Ymuna nifer o ffrydiau llai cyn iddi gyrraedd Pont Twrch ger pentref Y Foel, lle daw Afon Twrch i mewn iddi. Ddwy filltir wedi hynny daw Afon Gam i lawr o Nant yr Eira i lifo iddi, rhwng Y Foel a Llangadfan.

Ar ôl llifo heibio i bentref bychan Llanerfyl, mae'r afon yn ymdroelli rhwng bryniau canolig eu huchder ac yn cyrraedd pentref Llanfair Caereinion lle mae pont drosti. Am bum milltir olaf ei chwrs mae'n troi i'r gogledd trwy gwm cul. 'Yr Hafesb' yw'r enw lleol arni am y rhan yma, heibio i safle brenhinoedd teyrnas Powys ym Mathrafal. Un filltir i'r gogledd o'r llys mae Afon Banwy yn ymuno ag Afon Efyrnwy ger y Bont Newydd.

Afon Banwy yn llifo trwy gefn gwlad Maldwyn ger y Foel
Pont Banwy ar Afon Banwy ger y Foel

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.