Adeiladu

Oddi ar Wicipedia
Adeiladu
Mathproduction, technical activity, creadigaeth Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganconstruction permit, groundbreaking ceremony Edit this on Wikidata
Olynwyd ganagor, occupancy permit, ribbon-cutting ceremony Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Codi fflatiau Doc Fictoria yng Nghaernarfon; Hydref 2007.
Craeniau'r adeiladwyr wrth iddynt godi adeilad y BBC yng Nghaerdydd; Ionawr 2017.

Adeiladu yw'r broses o godi adeilad, pont, ffordd neu isadeiledd arall. Mae cynhyrchu'n wahanol, ac yn broses lle mae sawl gwrthrych tebyg yn cael ei greu; ond fel arfer, mewn adeiladwaith, un prynnwr sydd, ac un peth a gynhyrchir, a hynny'n aml yn digwydd yn y fan a'r lle yn hytrach na mewn ffatri.

Mae adeialdu'n rhan bwysig o economi pob gwlad, ac yn dod a chanran uchel o'r cynnyrch mewnwladol crynswth (neu'r GDP): rhwng 6 a 9%, fel arfer.[1] Mae'r broses o adeiladu'n dilyn yr un camau: y cwsmer yn gweld yr angen ac yn canfod ffynhonnell o arian, comisiynu pensaer i wneud y cynlluniau a goruchwylio'r gwaith adeiladu, penodi cwmni o adeiladwyr i godi'r adeilad ac yn olaf - trosglwyddo'r adeilad gorffenedig i'r cwsmer. Mae cwmniau mawr yn cyflogi arebnigwyr eu hunain e.e. bricwyr, trydanwyr, plymwyr, saeri, peintwyr.[2][3]

Codi 'Pont Eads' dros Afon Mississippi ger St. Louis, Missouri, tua 1874.

Ceir llawer o reolau er mwyn sicrhau diogelwch a safon, a goruchwylir yr holl waith, fel arfer, gan adran gynllunio a rheoleiddio, o fewn y sir. Yn ogystal â hyn, ceir llawer o reolau Ewropeaidd, gwladol a sirol sy'n sicrhau hefyd fod yr adeilad yn cadw ei wres, yn lleihau'r impact ar yr amgylchedd e.e. yn cynhyrchu ei ynni (paneli solar, cyfnewidwyr gwres geo) a'i ddŵr ei hun (ffynnon), neu'n cynnwys uned trin carthffosiaeth a chasglu, ailgylchu a phuro dŵr ar y safle.[4]

Mae tair sector: adeiladau (preswyl a masnachol), isadeiledd (ffyrdd, carffosiaeth, pontydd) a diwydiannol (ffatrioedd, purfeydd olew, ffermydd o felinau gwynt).

Gwariant gwledydd y byd yn y maes hwn[golygu | golygu cod]

Y swm a wariwyd ar adeiladu yn ôl gwlad- y 25 uchaf yn 2015
Economi
Gwariant ar adeiladwaith yn 2015 (mewn biliynau o USD.
(01)  Gweriniaeth Pobl Tsieina
1,849
(02)  Unol Daleithiau
599
(03)  Japan
569
(04)  India
333
(05)  Ffrainc
147
(06)  Almaen
143
(07)  Singapôr
131
(08)  Canada
131
(09)  Awstralia
115
(10)  Rwsia
111
(11)  Brasil
109
(12) Baner Yr Eidal Yr Eidal
107
(13)  Sbaen
104
(14)  Indonesia
93
(15)  Mecsico
92
(16)  De Corea
58
(17)  Twrci
35
(18)  Yr Emiradau Arabaidd Unedig
34
(19)  Feneswela
34
(20) Baner Yr Iseldiroedd Yr Iseldiroedd
34
(21)  Gwlad Pwyl
34
(22)  Y Swistir
33
(23)  Sawdi Arabia
32
(24)  Iran
29
(25)  Colombia
29

Ffynhonnell:[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Chitkara, K. K. (1998), Construction Project Management, New Delhi: Tata McGraw-Hill Education, p. 4, ISBN 9780074620625, https://books.google.com/books?id=nmiMyNhKQooC, adalwyd 16 Mai 2015
  2. Compare: "Construction", Merriam-Webster.com (Merriam-Webster), http://www.merriam-webster.com/dictionary/construction, adalwyd 2016-02-16, "[...] the act or process of building something (such as a house or road) [...]."
  3. Halpin, Daniel W.; Senior, Bolivar A. (2010), Construction Management (4 ed.), Hoboken, NJ: John Wiley & Sons, p. 9, ISBN 9780470447239, https://books.google.com/books?id=ky1GHdiORn4C, adalwyd Mai 16, 2015
  4. "The Top 250", Engineering News-Record, 1 Medi2014, http://enr.construction.com/toplists/Top-Global-Contractors/001-100.asp
  5. Figures from the United Nations' UN National Accounts Database. for the countries of the world. Retrieved 1 Chwefror 2014.