ZANU

Oddi ar Wicipedia
ZANU
Enghraifft o'r canlynolmudiad gerila, mudiad cenedlaethol dros ryddid Edit this on Wikidata
Idiolegcenedlaetholdeb Affricanaidd, cenedlaetholdeb asgell chwith, sosialaeth Affrica, Maoaeth Edit this on Wikidata
Daeth i ben1975 Edit this on Wikidata
Label brodorolZimbabwe African National Union Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu8 Awst 1963 Edit this on Wikidata
Olynwyd ganZimbabwe African National Union – Patriotic Front, Zimbabwe African National Union – Ndonga Edit this on Wikidata
SylfaenyddEnos Nkala, Edgar Tekere, Leopold Takawira, Ndabaningi Sithole, Herbert Chitepo Edit this on Wikidata
Enw brodorolZimbabwe African National Union Edit this on Wikidata
GwladwriaethSimbabwe Edit this on Wikidata

Corff a ffurfiwyd i wrthwynebu llywodraeth Ian Smith yn Ne Rhodesia oedd ZANU (Zimbabwe African National Union, sef "Undeb Cenedlaethol Affrica Simbabwe"). Fe'i ffurfiwyd pan fu hollt yn y mudiad ZAPU (Zimbabwe African People's Union, sef "Undeb Pobl Affricanaidd Simbabwe"). Fe'i sefydlwyd gan y Parchedig Ndabaningi Sithole, gyda Herbert Chitepo. Roedd tueddiad y mundiad ZANU yn fwy tuag ideoleg Maoaeth.

Daeth Robert Mugabe yn arweinydd ZANU wedi i Herbert Chitepo gael ei lofruddio ar 18 Mawrth, 1975. Gadawodd Ndabaningi Sithole i ffurfio'r blaid ZANU (Ndonga), oedd o blaid defnyddio dulliau heddychlon i geisio grym, tra roedd ZANU dan Mugabe o blaid ymgyrch arfog.

Wedi i lywodraeth Ian Smith orfod derbyn llywodraeth fwyafrifol, enillodd ZANU yr etholiad yn 1980 dan Robert Mugabe, a ddaeth yn Brif Weinidog Simbabwe. Wyth mlynedd yn ddiweddarach, ail-unodd a ZAPU dan Joshua Nkomo i ffurfio plaid ZANU-PF, y blaid sy'n llywodraethu yn Simbabwe ar hyn o bryd, gyda Robert Mugabe fel Arlywydd.

Eginyn erthygl sydd uchod am Simbabwe. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.