Zimbabwe

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Republic of Zimbawe
Gweriniaeth Zimbabwe
Baner Zimbabwe Arfbais Zimbabwe
Baner Arfbais
Arwyddair: Unity, freedom, work
(Saesneg: Undod, rhyddid, gwaith)
Anthem: Simudzai Mureza Wedu Simudzai Mureza Wedu weZimbabwe (Shona) neu Kalibusiswe Ilizwe leZimbabwe (Ndebele)
Lleoliad Zimbabwe
Prifddinas Harare
Dinas fwyaf Harare
Iaith / Ieithoedd swyddogol Saesneg
Llywodraeth Unbennaeth
- Arlywydd Robert Mugabe
- Prif Weinidog Morgan Tsvangirai
Annibyniaeth
- Datganwyd

- Cydnabuwyd
o'r Deyrnas Unedig
(fel Rhodesia) 11 Tachwedd 1965
(fel Zimbabwe) 18 Ebrill 1980
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
390,757 km² (60fed)
1%
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2005
 - Dwysedd
 
13,010,000 (68ain)
33/km² (85ain)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2005
$30.58 biliwn (94ain)
$2,607 (129ain)
Indecs Datblygiad Dynol (2003) 0.505 (145ain) – canolig
Arian cyfred Doler Zimbabwe (ZDD)
Cylchfa amser
 - Haf
CAT (UTC+2)
CAT (UTC+2)
Côd ISO y wlad .zw
Côd ffôn +263

Gwlad yn Affrica Ddeheuol yw Gweriniaeth Zimbabwe neu Zimbabwe (hefyd Simbabwe). Lleolir y wlad rhwng afonydd Zambezi a Limpopo. Mae'n ffinio â De Affrica i'r de, â Botswana i'r gorllewin, â Zambia i'r gogledd ac â Moçambique i'r dwyrain ac nid oes ganddi fynediad i'r môr. Harare yw prifddinas y wlad. Cyn annibyniaeth roedd Zimbabwe (Rhodesia) yn wladfa Brydeinig.

Cynnwys

Hanes [golygu]

Rhan o furiau Zimbabwe Fawr
Prif erthygl: Hanes Zimbabwe.

Roedd Zimbabwe yn ganolfan i ymerodraeth frodorol yn ne Affrica a'i phrifddinas yn Zimbabwe Fawr. Mashona oedd y trigolion. Cawsant eu gorchfygu gan y Matabele. Cipiwyd tir y Matabele a'r Mashona gan yr anturiaethwr imperialaidd o Sais Cecil Rhodes a'r Cwmni Prydeinig De Affrica yn 1895 a chafodd ei henwi'n Rhodesia ar ei ôl.

Datganodd Ian Smith, prif weinidog gwyn y wlad, annibyniaeth unochrog (UDI) oddi ar Brydain yn 1965 a datganwyd gweriniaeth yno yn 1970.

Ar ôl rhyfel herwfilwrol hir daeth Robert Mugabe, arweinydd ZANU (PF), yn arlywydd y wlad (gweler isod), yn 1980.

Daearyddiaeth [golygu]

Prif erthygl: Daearyddiaeth Zimbabwe.

Mae'r rhan fwyaf o'r wlad yn gorwedd ar wastatir uchel, dros 3,300' (1000m) i fyny ar gyfartaledd. Mae llawer o'r tir yn safana.

Gwleidyddiaeth [golygu]

Rhaniadau gweinyddol [golygu]

Rhennir Zimbabwe yn wyth talaith a dwy ddinas â statws taleithiol. Is-rennir y taleithiau hynny yn 59 ardal a 1,200 ardal ddinesig.

Taleithiau ac ardaloedd Zimbabwe

Mae'r taleithiau'n cynnwys:

Ardaloedd: gweler Ardaloedd Zimbabwe

Ardaloedd dinesig: gweler Ardaloedd dinesig Zimbabwe

Economi [golygu]

Prif erthygl: Economi Zimbabwe.

Demograffeg [golygu]

Prif erthygl: Demograffeg Zimbabwe.

Mae mwyafrif helaeth y bologaeth yn bobl Bantŵ. Ceir yn ogystal lleiafrif o bobl o dras Ewropeaidd ac Asiaidd, ond mae eu nifer wedi gostwng yn sylweddol mewn canlyniad i'r sefyllfa gwleidyddol diweddar.

Saesneg yw'r iaith swyddogol. Siaredir yn ogystal sawl iaith Affricanaidd; y pwysicaf ohonynt yw Ndebele a Shona.

Gweler hefyd [golygu]