Zhu Xi
Oddi ar Wicipedia
Ysgolor Conffiswsiaidd oedd Zhū Xī neu Chu Hsi (18 Hydref 1130 - 23 Ebrill 1200) a anwyd yn Youxi, Fujian, Tsieina yn ystod cyfnod Brenhinllin Sòng Cháo (960-1279). Daeth i fod yn resymegydd Neo-Gonffiwsiaidd mwyaf dylanwadol yn Tsieina drwy ddilyn yr ysgol o feddwl a elwir yn 'Ysgol yr Egwyddor'. Mae ei gyfraniad i athroniaeth Tsieineaidd yn cynnwys y 'llyfrau' neu'r dogfennau canlynol: Dyrchafu'r Lunyu (Yr Analectau) gan Conffiwsiws,[1] y Meniciws, Y Ddysgeidiaeth Fawr a'r Chung Yung (neu'r Canol Llonydd) a elwir Y Pedwar Llyfr. Mae ei athroniaeth yn ymwneud ag ymchwilio i bethau (gewu) a'r synthesis o holl gysyniadau Conffiwsiaeth.