Zenobia (Brenhines Palmyra)

Oddi ar Wicipedia
Zenobia
Ganwydבת זבי Edit this on Wikidata
c. 240 Edit this on Wikidata
Palmyra Edit this on Wikidata
Bu farw275 Edit this on Wikidata
Tivoli Edit this on Wikidata
DinasyddiaethPalmyrene Empire, Rhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethllywodraethwr Edit this on Wikidata
Swyddempress regnant Edit this on Wikidata
Adnabyddus amEpitome Edit this on Wikidata
PriodOdaenathus Edit this on Wikidata
PlantVaballathus, Hairan II, Septimius Antiochus Edit this on Wikidata
PerthnasauHairan I Edit this on Wikidata
llofnod

Septimius Zenobia (hefyd Xenobia), brenhines Ymerodraeth Palmyra (fl. c. O.C. 230-280), merch y pennaeth Arabaidd Zabaai ben Selim.

Priododd Zenobia Septimius Odenathus, llywodraethwr Rhufeinig lled-annibynnol Palmyra. Cafodd fab, Vabalathus, ganddo. Ar farwolaeth Odenathus yn 267 cymerodd Zenobia awennau'r deyrnas gan deyrnasu yn enw ei mab ifanc.

Denarius o Palmyra sy'n dangos y Frenhines Zenobia, ar y chwith, â'r geiriau S[EPTIMIA] ZENOBIA AVG[USTUS]; ar y dde llun o'r dduwies Juno â'r geiriau IVNO REGINA (271-272)

Roedd Palmyra yn brifddinas teyrnas led-annibynnol a oedd yn cynnwys Syria a rhan helaeth o Asia Leiaf erbyn hynny. Roedd Zenobia yn arweinydd cyfrwys ac uchelgeisiol a geisiai ymestyn ffiniau ei theyrnas i'r de ac i'r gorllewin. Yn swyddogol roedd Palmyra yn dal i fod yn dalaith Rufeinig. Oherwydd ei safle strategol rhwng gweddill yr Ymerodraeth Rufeinig ac Ymerodraeth y Sassaniaid (Persia), yn ogystal â'i bwysigrwydd economaidd fel emporiwm rhwng Mesopotamia ac arfordir y Môr Canoldir, roedd Zenobia yn medru chwarae'r ddwy ymerodraeth fawr yn erbyn ei gilydd tra'n ymestyn ffiniau a dylanwad Palmyra.

Honnai Zenobia ei bod yn ddisgynyddes i Dido (Elissa), y frenhines a sefydlodd Carthago, hen elyn Rhufain yn y frwydr am reolaeth ar y Môr Canoldir, i Cleopatra a Marcus Antonius (mae haneswyr yn tueddu i dderbyn hyn heddiw), ac i Semiramis. Gwelir yn hyn ymwybyddiaeth y frenhines o'i gwreiddiau Phenico-arabaidd ynghyd â'i ymdeimlad am hanes a'r achos "brodorol", fel petai, yn erbyn grym imperialaidd Rhufain.

Llun dychmygol o Zenobia gan Carlo Antonio Tavella (1668-1738) (olew ar ganfas)

Roedd hi'n ferch drawiadol. Mae'n werth dyfynnu crynhoad yr hanesydd Edward Gibbon o'r disgrifiad a rydd ffynonellau clasurol ohoni:

She claimed her descent from the Macedonian kings of Egypt, (y Ptolemiaid) equalled in beauty Cleopatra, and far surpassed that princess in beauty and valour. Zenobia was deemed the most lovely as well as the most heroic of her sex. // Her manly understanding was strengthened and adorned by study. She was not ignorant of the Latin tongue, but possessed in equal perfection the Greek, the Syriac and Egyptian tongues. She had drawn up for her own use an epitome of oriental history, and familiarly compared the beauties of Homer and Plato under the tuition of the sublime Longinus.

Yn 269 cipiodd yr Aifft. Cododd hyn wrychyn y Rhufeiniaid. Yn 272 daeth Aurelian â byddin i oresgyn Palmyra. Ymladdodd Zenobia yn ddewr ond enillodd Aurelian ddwy frwydr bwysig, yn Immae ac Emessa, a bu rhaid i Zenobia syrthio'n ôl ar y brifddinas. Ceisiodd ffoi i Persia â'i mab ond fe'u dalwyd yn yr anialwch. Dygodd Aurelian hi i Rufain. Pan ddathlwyd ei Fuddugoliaeth yn y brifddinas Rufeinig cafodd Zenobia y fraint o wisgo cadwynni aur yn yr orymdaith. Cafodd ei thrin yn drugarhaol gan y Rhufeiniaid, oedd yn aml yn lladd eu gelynion ar ôl dathlu Buddugoliaeth, a rhai blynyddoedd yn ddiweddarach roedd hi'n byw mewn fila yn Tibur (Tivoli heddiw). Yn ôl un ffynhonnell priododd seneddwr Rufeinig a chafodd blant ganddo. Sut bynnag y bu am hynny gwnaeth enw iddi ei hun fel athronydd a seren cymdeithas ym mhrifddinas ei hen elynion; arwydd o rym ei phersonoliaeth a'i harddwch corfforol.

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • Robin Fedden, Syria (Llundain, 1955)
  • J. Lempriere, A Classical Dictionary (arg. newydd, Llundain, d.d.)
  • Edward Gibbon, The History of the Decline and Fall of the Roman Empire

Cysylltiadau allanol[golygu | golygu cod]