Zakynthos
Oddi ar Wicipedia
Ynys yn perthyn i Wlad Groeg yw Zakynthos (Groeg: Ζάκυνθος), weithiau Zante. Hi yw'r drydedd o'r Ynysoedd Ionaidd o ran maint, gydag arwynebedd o 410 km2. Saif ger arfordir gorllewinol Groeg.
Poblogaeth yr ynys yn 2005 oedd 41,472. Dinas Zakynthos yw'r brifddinas. Twristiaeth ac amaethyddiaeth yw'r elfennau pwysicaf yn yr economi. Brodor o Zakynthos oedd Dionysios Solomos, bardd o'r 19eg ganrif ac awdur anthem genedlaethol Groeg.