Z (ffilm)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Yves Montand yn rhan Gregoris Lambrakis yn Z

Ffilm Ffrangeg gan y cyfarwyddwr o Roegwr Costa-Gavras yw Z (1969).

Ffilm iasoer wleidyddol yw hi. Mae'n ffilm sy'n cyfuno dulliau realaethyddol, newyddiadurol ac arddull aflonydd y cinema verité. Mae'n serennu Yves Montand fel y gwleidydd Gregoris Lambrakis sy'n cael ei asasineiddio er mwyn cael coup fel adwaith i hynny ac yn seiledig ar ddigwyddiadau cyfoes gyda chyfeiriadau at y cynllwyn i lofruddio Charles de Gaulle a coup'r cyrnelau yng Ngwlad Groeg. Enillodd Oscar am y ffilm orau mewn iaith dramor.

Er iddi gael ei beirniadau gan rai beirniaid am fod â gormod o ddeialog ynddi mae'n aros yn ffilm rymus gyda diweddglo cofiadwy iawn.

Francefilm.png Eginyn erthygl sydd uchod am sinema Ffrainc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.