Yvonne McGregor

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Yvonne McGregor
Manylion Personol
Enw Llawn Yvonne McGregor
Dyddiad geni (1961-04-09)

Ebrill 9, 1961 (53 oed)

Gwlad Baner Lloegr Lloegr
Baner Y Deyrnas Unedig Y Deyrnas Unedig
Gwybodaeth Tîm
Disgyblaeth Ffordd
Rôl Reidiwr
Math o reidiwr Treialon Amser & Pursuit
Prif gampau
Gold medal blank.svg Treial Amser, Gemau'r Gymanwlad
Bronze medal blank.svg Gemau'r Gymanwlad x2
Bronze medal olympic.svg Gemau Olympaidd
Golygwyd ddiwethaf ar:
26 Medi, 2007

Seiclwriag rasio Seisnig ydy Yvonne McGregor MBE (ganwyd 9 Ebrill 1961, Wibley, Bradford)[1]. Er iddi fod yn llwyddianus ym myd seiclo, dechreuodd seiclo yn gymharol hwyr yn ei gyrfa yn 29 oed yn 1990, bu'n rhedwraig ffriddoedd medrus am gynt.[2]

Cynyrchiolodd Loegr yng Ngemau'r Gymanwlad yn Kuala Lumpur, Malaysia yn 1994; yno enillodd y fedal aur yn y Ras Bwyntiau, medal efydd yn y Pursuit a'r Treial Amser, cystadlodd hefyn yn y ras ffordd.[3]

Cynyrchiolodd Brydain yn Pursuit a Treial Amser y Gemau Olympaidd 1996 yn Atlanta ac unwaith eto yn Sydney yn 2000, yn y ras ffordd a'r Pursuit, enillodd fedal efydd yn y Pursuit.[1]

Cafodd ei hanrhydeddu gyda MBE yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Franhines yn 2002.[2]

Cyn ymddeol o seiclo cystadleuol, roedd Yvonne yn benderfynnol o gyflawni un campwaith olaf, gwnaeth hyn ar ffurf gosod Record Ewropeidd yr Awr merched newydd, gan reidio 43.689 km mewn awr ar y trac yn Manceinion. Curodd y record gynt, a osodwyd yn 1978 gan Cornelia Van Oosten-Hage, 43.083 km, o 503 medr yn ychwanegol. Curodd hefyd y record answyddogol, 43.475 km, a osodwyd gan Leontien Van Moorsel y mis medi cynt.[4]

Canlyniadau[golygu]

1994
1af Gold medal blank.svg Ras Bwyntiau (25km), Gemau'r Gymanwlad
3ydd Bronze medal blank.svg Pursuit, Gemau'r Gymanwlad
3ydd Bronze medal blank.svg Treial Amser, Gemau'r Gymanwlad
1999
2il Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Prydain
4ydd Pursuit, Gemau Olympaidd
2000
3ydd Bronze medal olympic.svg Pursuit, Gemau Olympaidd
3ydd Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Prydain

Cyfeiriadau[golygu]

  1. 1.0 1.1 Gwefan swyddogol y Gemau Olympaidd
  2. 2.0 2.1 Cyclist McGregor honoured Rhagfyr 2001
  3. Gwefan swyddogol Gemau'r Gymanwlad
  4. MCGREGOR'S AGONY OVER: SUCCESS IN EUROPEAN HOUR British Cycling


Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.