Ystoria Ysgan ab Asgo

Oddi ar Wicipedia

Chwedl werin Gymraeg yw Ystoria Ysgan ab Asgo (Ystoria Ysgan ap Asgo: 'Hanes Ysgan ab Asgo'). Yn llaw yr hynafiaethydd John Jones, Gellilyfdy y ceir yr unig destun o'r chwedl sydd ar glawr, a ysgrifennwyd ganddo ar 23 Rhagfyr 1608.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Chwedl am ymgais Ysgan ab Asgo, arglwydd Bodeugan, i ddianc rhag Angau ydyw. Mae'n perthyn i ddosbarth rhyngwladol o chwedlau gwerin ond dyma'r unig enghraifft Gymraeg o'r motiff. Treflan ym mhlwyf Y Waun, ger Llanelwy, Dyffryn Clwyd oedd Bodeugan, ond does dim cofnod o Ysgan ab Asgo o gwbl ac mae'n debyg ei fod yn gymeriad llên gwerin yn unig, fel mae ei enw yn awgrymu. Mae John Jones yn ei alw yn "arglwydd Bodeugan yn Is Aled, swydd Ddinbych" ac mae'r ffaith fod y stori wedi ei lleoli ym mro teulu John Jones yn awgrymu iddo godi'r chwedl o draddodiad llafar y fro. Ac eto mae'r testun yn cynnwys nodweddion ieithyddol Cymraeg Canol ac felly mae'n bosibl hefyd fod ffynhonnell lenyddol i'r chwedl.[2]

Stori'r chwedl[golygu | golygu cod]

Yn y chwedl mae Ysgan ab Asgo yn sylweddoli fod pawb yn marw ac yn "ffoi rhag angau i bob lle yn y byd." Mae'n dod i lys hardd mewn coedwig fawr ac yn cael croeso yno. Mae'n gofyn am faint bydd y trigolion yn byw ac yn cael yr ateb na fyddent yn marw tra bo'r goedwig yno. Ond fesul dipyn mae'r goedwig yn darfod wrth iddynt ddefnyddio ei phren i goginio, felly byddent yn marw ryw ddydd. Ni fodlona Ysgan ar hynny ac ymaith ag ef. Mae'n ymweld a dau le arall ac yn cael yr un profiad: castell yng nghanol llyn anferth lle bydd pawb yn byw tra bo dŵr yn y llyn, ond eu bod yn cymryd tipyn o'r dŵr bob dydd i goginio felly byddent yn darfod, a llys dan graig gadarn lle bydd pawb yn byw tra bo'r graig yn sefyll, ond mae traed adar yn treulio'r graig ac felly bydd y graig a thrigolion y llys yn darfod hefyd.[3]

O'r diwedd daw Ysgan i lys mewn caer ar ymyl cors. Caiff groeso yno. Bydd pawb yn y llys yn byw "hyd Ddydd Brawd" ar yr amod eu bod yn peidio dringo trum arbennig yn y pellter. Mae Ysgan yn aros yn hir yno ond un diwrnod mae'n syrthio i demtasiwn, yn dringo'r drum ac yn gweld eneidiau ym Mhurdan. Am iddo dorri'r rheol mae'n cael ei orfodi i ymadael. Mae'n dychwelyd i Fodeugan. Does neb yn ei adnabod ac mae pob dim wedi newid, ond mae gan un gŵr frithgof am rywun o'r enw Ysgan ab Asgo a fu'n arglwydd yno unwaith. Gan sylweddoli nad oes modd osgoi Angau yn derfynol, mae Ysgan yn ymadael ac yn cyrraedd y llys yn y goedwig eto lle mae'n aros hyd heddiw "ym Mharadwys gyda Eli ac Enoc."[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. T. H. Parry-Williams (gol.), Rhyddiaith Gymraeg: Detholiad o Lawysgrifau 1488-1609 (Caerdydd, 1954), tt. 144-6.
  2. Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, dan 'Ystoria Ysgan ab Asgo'.
  3. 3.0 3.1 Rhyddiaith Gymraeg: Detholiad o Lawysgrifau 1488-1609, tt. 144-6.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Ceir y testun yn yr orgraff wreiddiol yn y gyfrol:

  • T. H. Parry-Williams (gol.), Rhyddiaith Gymraeg: Detholiad o Lawysgrifau 1488-1609, Y Gyfrol Gyntaf (Caerdydd, 1954). Ystoria Ysgan ap Asgo, tt. 144-6.