Ysgol y Creuddyn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ysgol y Creuddyn
Creuddyn.jpg
Arwyddair Dawn, Dysg, Daioni
Sefydlwyd 1981
Math Cyfun, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Cymraeg
Pennaeth Dr Meirion Davies
Lleoliad Ffordd Derwen, Bae Penrhyn, Llandudno, Conwy, Cymru, LL30 3LB
AALl Cyngor Sir Conwy
Staff tua 60
Disgyblion 679[1]
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 11–18
Llysoedd Bodysgallen, Gloddaeth, Penrhyn
Lliwiau Gwyrdd tywyll a melyn
Cyhoeddiadau "Mwy nag Addysg" - Ysgol y Creuddyn 1981-2006
Gwefan creuddyn.conwy.sch.uk


Ysgol uwchradd Gymraeg yn sir Conwy yw Ysgol Y Creuddyn. Fe'i lleolir ar safle pwrpasol ar gyrion Bae Penrhyn, rhwng Llandudno a Bae Colwyn. Fe'i henwir ar ôl Y Creuddyn, enw hanesyddol yr ardal a chwmwd yn yr hen gantref Rhos.

Roedd 679 o ddisgyblion yn Ysgol y Creuddyn yn 2001, gan gynnwys 92 yn y chweched dosbarth yn ôl arolwg Estyn.[1]

Daw disgyblion yr ysgol o ddalgylch eang sy'n ymestyn cyn belled a Llanfairfechan ac Eglwysbach yn y gorllewin ac Abergele a Llansannan yn y dwyrain.


Cynnwys

[golygu] Hanes

Daeth sefydlu Ysgol y Creuddyn wedi blynyddoedd o frwydro gan rieni, ynghŷd â chefnogaeth eglwysi Cymraeg y dalgylch a Chymdeithas y Cymrodorion. Gwrthwynebodd Pwyllgor Addysg Sir Gaernarfon y cynllun ar y sail nad oedd digon o ddisgyblion i gyfiawnhau ysgol ddwyieithog newydd yng nghyffiniau Llandudno. Parhaodd yr un agwedd yn nyddiau cynnar y Sir Gwynedd newydd wedi'r ad-drefnu ym 1974, ond parhaodd rhieni i bwyso'n ddi-baid ar y Pwyllgor Addysg. Daeth datblygiad yn ffurf llythyr Cyfarwyddwr Addysg Clwyd at Gyfarwyddwr Addysg Gwynedd, yn gofyn am ystyriaeth i godi ysgol ddwyieithog newydd ar y cyd, ar neu yn ymyl ffin y ddwy sir. Cytunodd Pwyllgor Addysg Gwynedd i'r gwahoddiad, a bu cydweithio hapus nes sicrhau tir i godi ysgol arno, bron ar y ffin. Penderfynwyd fod Gwynedd i weinyddu'r ysgol a bod cost ei chynnal i'w dalu yn ôl nifer y plant o'r ddwy sir.

Nid siroedd Caernarfon a Gwynedd yn unig a gwrthwynebodd y gofynion am ysgol ddwyieithog newydd. Yr oedd rhai unigolion lleol yn dymuno gohirio neu ddiddymu agor yr ysgol ar y sail nad oedd digon o ddisgyblion a theuluoedd Cymraeg yn y cyffiniau, a gwell byddai ychwanegu at ysgolion uwchradd lleol megis Ysgol John Bright yn Llandudno ac Ysgol Aberconwy yng Nghonwy.

Agorodd yr ysgol ddydd Mercher, Medi 2, 1982, i 218 o ddisgyblion tra fo'r adeiladu'n parhau. Agorwyd yr ysgol yn swyddogol Hydref 17, 1984 gan y cynghorydd O. M. Edwards; un o'r amlycaf o'r ymgyrchwyr a sicrhaodd fodolaeth yr ysgol a hefyd Cadeirydd cyntaf y Corff Llywodraethol.

[golygu]

Daw dyluniaud a siap logo'r ysgol o amlinelliad to neuadd ddrama'r ysgol.

[golygu] Dolenni allanol

[golygu] Cyfeiriadau

Apple-book.svg Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
CymruConwy.png Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Conwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill