Ysgol Pen Barras

Oddi ar Wicipedia
Côr yr ysgol yn dathlu llwyddiant dod yn gyntaf yng nghystadleuaeth 'Songs of Praise', drwy wledydd Prydain; Mai 2011. Bu farw Elen Meirion eu harweinydd yn haf 2012.

Ysgol gynradd Gymraeg yn Rhuthun, Sir Ddinbych yw Ysgol Pen Barras. Mae'n gwasanaethu plant rhwng 3 ac 11 oed. Mae’r ysgol yn rhannu safle gydag Ysgol Stryd y Rhos.[1]

Roedd 204 o ddisgyblion ar y gofrestr yn 2005, yn ogystal â 29 o blant meithin a fynychai'r ysgol yn ran-amser. Daeth 60% o'r disgyblion o gartrefi lle siaradwyd y Gymraeg yn rhugl yn 2005, ond roedd hanner y plant meithrin yn ddysgwyr.[1] Erbyn Tachwedd 2012 roedd 221 o blant ar gofrest yr ysgol a 32 o lefydd gweigion (12.7%). Cyhoeddodd Cyngor Sir Ddinbych eu bwriad i aildrefnu addysg yn y cylch.[2]

Y prifathro presennol yw Mr Marc Lloyd Jones.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1  Adroddiad arolygiad Ysgol Pen Barras, 17–18 Mai 2005. Estyn (20 Gorffennaf 2005).
  2. Denbighshire Free Press; cyhoeddwyd 21 Tachwedd 2012
Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Ddinbych. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato