Ysgol Bro Tegid

Oddi ar Wicipedia
Ysgol Bro Tegid
Enghraifft o'r canlynolysgol Gymraeg Edit this on Wikidata
Lleoliady Bala Edit this on Wikidata
Map
RhanbarthGwynedd Edit this on Wikidata

Ysgol gynradd gymunedol yn Y Bala, Gwynedd, ydy Ysgol Bro Tegid, ar gyfer plant 4 i 11 oed. Yn 2005, roedd 82 o ddisgyblion yn yr ysgol. Credir daw tua 50% o'r disgyblion o gartrefi lle siaredir Cymraeg fel iaith gyntaf, ond gall tua 80% ohonynt siarad yr iaith yn rhugl.[1]

Sefydlwyd ysgol yn y Bala ym 1855 fel Ysgol Brydeinig Bala British School ar y Stryd Fawr. Trosglwyddwyd yr ysgol i reolaeth Bwrdd Ysgol Plwy Llanycil ar 1 Ebrill 1872 a newidiwyd ei henw i Bala Board School cyn cael ei throsglwyddo unwaith eto ar 30 Medi 1903, y tro yma i reolaeth Cyngor Sir Feirionydd; newidiwyd yr enw i Bala Council School.[2]

Caewyd yr ysgol ddiwedd Rhagfyr 1904 a symudodd i adeilad newydd ar Heol Tegid ar 2 Ionawr 1905; roedd 125 o ddisgyblion yn yr ysgol ar y diwrnod agoriadol. Addaswyd yr ysgol i’w ffurf bresennol yn ystod chwarter olaf yr 20g. Aeth yr ysgol ymlaen dan yr enw Bala Central School gan addysgu plant hyd at 15 oed, hyd agoriad Ysgol y Berwyn yn 1964 a trodd yr ysgol yn un cynradd dan yr enw Ysgol Gynradd y Bala. Mabwysiadwyd yr enw presennol yn ystod yr 1980au.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.