Ysbyty Athrofaol Cymru

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Ysbyty Prifysgol Cymru)
Ysbyty Athrofaol Cymru
Enghraifft o'r canlynolysbyty athrofaol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1971 Edit this on Wikidata
Map
Rhiant sefydliadBwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro Edit this on Wikidata
RhanbarthCaerdydd Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://cavuhb.nhs.wales/hospitals-and-health-centres/our-hospitals/uhw/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Lleolir Ysbyty Athrofaol Cymru (Saesneg: University Hospital of Wales) yn ardal y Mynydd Bychan, Caerdydd. Sefydlwyd ym 1971, ac erbyn hyn mae 1000 o wlau yn yr ysbyty. Hwn yw ysbyty athrofaol trydydd fwyaf y Deyrnas Unedig, a'r ysbyty mwyaf yng Nghymru.[1] Mae'n darparu gwasanaeth Damwain ac Argyfwng 24 awr ac amryw o adrannau arbenigol eraill.

Mae'r ysbyty wedi ei rannu'n dri bloc, sef Bloc A, B a C. Mae'r ysbyty athrofaol yn gysylltiedig ag Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd. Gweinyddir yr ysbyty gan Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a'r Fro.

Cyfleusterau[golygu | golygu cod]

Cwblhawyd brosiect mil o bunnau gan gwmni Base Structures yn 2005, gan gyflenwi llwybr a oedd wedi ei gynllunio'n arbennig i gysylltu un rhan o'r ysbyty gyda'r llall.[2] Mae'r ysbyty hefyd yn brolio cynulliad enfawr yn y brif fynedfa, sy'n cynnwys derbynfa a siopau, yn ogystal â gwasanaethau arbennig sy'n rhoi cymorth i'r cleifion a'u teuluoedd.

Radio'r ysbyty[golygu | golygu cod]

Mae Ysbyty Athrofaol Cymru yn gartref i Radio Glamorgan, sy'n darlledu ar Sianel 1, Patientline.[3] Dathlodd yr orsaf ei phen-blwydd yn 40 mlwydd oed yn 2007. Mae'n cyflenwi cerddoriaeth ac adloniant i'r staff, yr ymwelwyr a'r cleifion, 24 awr y dydd, pob diwrnod yr wythnos.

Trafnidiaeth[golygu | golygu cod]

Mae cyrraedd Ysbyty Athrofaol Cymru wedi dod yn llawer haws yn ystod y blynyddoedd diweddar. Mae gwasanaethau Bws Caerdydd wedi ei wneud yn bosib i gyrraedd yr ysbyty o bob cwr o Gaerdydd. Mae gwasanaethau gan gwmnïau eraill megis Veolia a Stagecoach yn cyflewni trafnidiaeth o du allan i Gaerdydd.

Gwasanaethau Bws Caerdydd:

  • 1 i'r Rhath, Penylan, Tremorfa, y Sblot a Canol y Dref
  • 2 i Treganna, Lecwydd, Trelluest, Bae Caerdydd a Canol y Dref
  • 8 i Canol y Dref a Bae Caerdydd
  • 9/9A i Canol y Dref, Trelluest a'r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol
  • 51 i Cathays a Chanol y Dref - gan gario 'mlaen i Ddinas Powys, Llandochau Fach a'r Barri fel bws 95
  • 53 i Cyncoed, Pentwyn, Llanedeyrn a Phenylan
  • 85 i Draenen Pen-y-Graig, Llysfaen a Llanisien
  • 86 i Llanisien a Llysfaen
  • 101/102 i Dyllgoed, Pentrebaen a Threlái
  • 101/102 i'r Rhath, Penylan, Llaneirwg a Llanrhymni

Gwasanaethau Veolia Transport Cymru:

  • 22 i Rhiwbina a Phantmawr
  • 86 i Llanisien a Llysfaen
  • 200 i Bentre'r Eglwys

Gwasanaethau Stagecoach:

  • A/B i Draenen Pen-y-Graig a Chaerffili

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg)  More hospital emergencies delays. BBC (1 Mawrth 2007).
  2. "Base Structures". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-09-28. Cyrchwyd 2021-02-23.
  3. "Patientline". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-06-13. Cyrchwyd 2008-11-10.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]