Yr Undeb Rhyngwladol
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Yr Internationale)
L'Internationale a ysgrifennwyd ym 1870 gan Eugène Pottier (1816–1887)
Yr Undeb Rhyngwladol neu Yr Internationale (L'Internationale yn Ffrangeg) yw'r gân sosialaidd enwocaf, ac un o ganeuon enwocaf y byd. Ysgrifennodd Eugène Pottier (1816–1887) eiriau'r anthem ym 1871, ac ym 1888 cyfansoddodd Pierre Degeyter (1848–1932) y dôn.[1] (Y dôn wreiddiol oedd La Marseillaise.) Daw'r enw o'r Undeb Rhyngwladol Cyntaf, cyfundrefn sosialaidd rhyngwladol. Mae hi'n cael ei chanu'n draddodiadol gyda'r llaw dde yn ddwrn caeëdig.
Gan fod y gân yn deillio o gyfnod cyn rhaniad ffurfiol sosialaeth i'w aml-dueddiadau, caiff ei ganu gan bleidiau cymdeithasol democrataidd (serch ei eiriau chwyldroadol), gomiwnyddion ac anarchwyr 'oll.
Gweler hefyd [golygu]
- L'Internationale
- Mae'r geiriau Cymraeg i gyd ar gael am we-fan Wicitestun yma.
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ The Guardian, Awstralia. "The International". pp. nawfed paragraff. http://www.geocities.com/capitolhill/7078/inter.txt.