Iddew Crwydrad

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Yr Iddew Crwydrad)
Yr Iddew Crwydrad gan Gustave Doré.

Cymeriad o fytholeg Gristnogol a llên gwerin Ewropeaidd yr Oesoedd Canol yw'r Iddew Crwydrad.[1][2] Mae'n Iddew a gafodd ei felltithio i grwydro'r byd hyd yr Ail Ddyfodiad, yn gosb am wawdio Iesu ar ei ffordd i'r groes. Yn ôl y stori draddodiadol, roedd yr Iddew yn grydd o'r enw Ahasferus[3] a siasiodd Iesu i ffwrdd o'i ddrws.[4]

Mewn fersiwn hŷn o'r chwedl a geir yn y Chronicle of St Alban's Abbey (1228), Cartaphilus porthor llys Pontiws Peilat oedd yr Iddew a fwrodd Iesu wrth iddo fynd heibio. Yn yr Almaen fe'i elwir yn John Buttadaeus, a welwyd yn crwydro Antwerp yn y 13g, y 15g, a'r 16g, ac yn Salt Lake City ym 1868. Yn ôl y chwedl Ffrengig, Isaac Laquedom neu Lakedion yw ei enw.[4]

Aeddfedodd chwedl yr Iddew Crwydrad yng nghyfnod o alltudiaeth i'r Iddewon yn Ewrop, er enghraifft gwaharddiad y Seffardïaid o Benrhyn Iberia ar ddiwedd y 15g. Mewn fersiynau diweddarach o'r stori, datblygodd yr Iddew yn gymeriad mwy trasig ac yn rhagredegydd trychineb.[5] Daeth y cymeriad mytholegol hwn yn symbol o anfarwoldeb ac ymfudo parhaol cenedl yr Iddewon.[6] Gellir ei ystyried hefyd yn amlygiad o wrth-Semitiaeth ymysg y Gristionogaeth a oedd yn beio'r Iddewon am groeshoeliad yr Iesu.

Mae'r motiff o fod dynol a anfarwolir, ond yn dyheu am farwolaeth, yn gyffredin i nifer o chwedlau Germanaidd a Llychlynaidd.[7] Er enghraifft myth y Brenin Herla a'i griw o helwyr, neu'r duw Wotan sydd yn crwydro'r ddaear hyd dragwyddoldeb.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

  • Der ewige Jude, ffilm bropaganda Natsïaidd sy'n cymryd ei theitl o'r chwedl

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 1637 "Jew: wandering Jew".
  2.  Iddew. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 22 Mai 2018.
  3. Geiriadur yr Academi, [Ahasuerus].
  4. 4.0 4.1 Rockwood, Camilla (gol.). Brewer's Dictionary of Phrase and Fable, 18fed argraffiad (Caeredin, Chambers, 2009), t. 1400.
  5. Johnson, Paul. A History of the Jews (Efrog Newydd, Harper Perennial, 1988), t. 233.
  6. (Saesneg) WANDERING JEW. 1906 Jewish Encyclopedia. Adalwyd ar 3 Tachwedd 2012.
  7. Jones, Alison. Larousse Dictionary of World Folklore (Caeredin, Larousse, 1995), t. 449 "Wandering Jew".

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • G. K. Anderson, The Legend of the Wandering Jew (Providence, R.I.: Brown University Press, 1965).
  • G. Hasan-Rokem a Alan Dundes (gol.), The Wandering Jew: Essays in the Interpretation of a Christian Legend (Bloomington: Indiana University Press, 1986).