Amwythig

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Yr Amwythig)
Neidio i: llywio, chwilio

Coordinates: 52°42′28″N 2°45′15″W / 52.7077°N 2.7541°W / 52.7077; -2.7541

Amwythig
The Square, Shrewsbury.JPG
Hen Farchnad y Dre.
Coat of arms of Shrewsbury.png
Arfbais Draddodiadol y Dre
Motto: Floreat Salopia
(May Salop flourish).
Mabwysiadwyd hefyd gan Swydd Amwythig ym 1896.[1]
Yr Amwythig is located in Y Deyrnas Unedig
Yr Amwythig

Yr Amwythig
Poblogaeth 74,000 (Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2011)
Cyfeirnod grid yr AO SJ491124
    - Llundain  153 milltir (246 km) 
Plwyf Shrewsbury
Awdurdod unedol Swydd Amwythig
Swydd seremonïol Swydd Amwythig
Rhanbarth
Gwlad Lloegr
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost Shrewsbury
Rhanbarth cod post SY1, SY2, SY3
Cod deialu 01743
Yr Heddlu
Tân
Ambiwlans
Senedd yr Undeb Ewropeaidd West Midlands
Senedd y DU Shrewsbury and Atcham(etholaeth seneddol)
Gwefan Visit Shrewsbury
Rhestr llefydd: y DU • Lloegr •

Tref yn Swydd Amwythig, Lloegr, yw Amwythig (hefyd Yr Amwythig, ar lafar yn bennaf; hen ffurf: Mwythig; Saesneg: Shrewsbury). Amwythig yw tref sirol a chanolfan weinyddol Swydd Amwythig lle ceir swyddfeydd y cyngor sir. Mae Afon Hafren yn llifo trwy'r dref.

Hanes[golygu]

Awgrymir Amwythig fel safle Pengwern, llys brenhinoedd teyrnas Powys cyn i'r deyrnas honno golli ei thir yn y dwyrain i Mercia,[2] ond does dim sicrwydd am hynny.

Codwyd castell ar y safle gan y Normaniaid yn 1070. Ymwelodd Gerallt Gymro ag Amwythig yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188. Cipiwyd Amwythig gan Lywelyn Fawr yn 1215, ac eto yn 1234.

Ar 28 Mehefin 1283 galwodd Edward I o Loegr ei senedd i gyfarfod yn Amwythig i farnu Dafydd ap Gruffudd, Tywysog Cymru a brawd Llywelyn Ein Llyw Olaf. Ar 30 Medi dedfrydwyd Dafydd i farwolaeth am deyrnfradwriaeth. Cafodd ei ddienyddio yn Amwythig ar 3 Hydref trwy ei grogi, ei ddiberfeddu a'i chwarteru.

Mae'r dref yn enwog am ei ysgol ramadeg i fechgyn a agorodd yn 1552; mae'r gwyddonydd Charles Darwin a'r bardd Syr Philip Sydney yn gyn-ddisgyblion. Hi oedd yr unig le lle ceid gwasanaeth trên uniongyrchol o dde-ddwyrain,, de-orllewin, canolbarth a Gogledd Cymru.

Cysylltiadau Cymreig[golygu]

Y wasg Gymraeg yn Amwythig[golygu]

Symudodd Thomas Jones (1648 - 1713) yr almanaciwr ei wasg o Lundain i Amwythig yn 1695 i gyhoeddi llyfrau Cymraeg. Am tua ddeng mlynedd a thrigain ar ôl hynny Amwythig oedd canolfan y fasnach lyfrau Cymraeg (dim tan 1718 y cafwyd y wasg drwyddedig gyntaf yng Nghymru).

Ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif roedd gan Stafford Prys wasg yn y dref. Ei gyhoeddiad mwyaf uchelgeisiol efallai oedd y flodeugerdd Gymraeg Gorchestion Beirdd Cymru (1773).

Oriel[golygu]

Gweler hefyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. History of Shropshire#Etymology
  2. Gwefan Cymru Catalonia; PRIF DDINAS I GYMRU. (Papur a ddarllenwyd i Gymdeithas Lenyddol Parkfield, Birkenhead) Y Geninen. Rhif 2, Cyfrol XIII. Ebrill 1895. Tudalennau 81-85.)

Dolenni allanol[golygu]