Yoko-Shiho-Gatame

Oddi ar Wicipedia

Un o'r saith techneg Osaekomi-waza (押さえ込み技) mewn Jiwdo ydy Yoko-Shiho-Gatame (横四方固め), yn llythrennol y techneg pinio "pedwar-chwarter ochrol".

Mae tori (取り, y person sy'n gweithredu'r techneg) yn gorwedd wrth ochr uke (受け, y person arall). Mae'n rhoi un braich dan ben uke ac yn gafael am ei goler, ac yn estyn ei fraich arall rhwng coesau uke ac yn gafael ei wregys. Mae tori yn rhoi bwys ei gorff uchaf ar frest uke tra'n gadael ei gluniau ei hun ar y mat.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]