Ynysoedd Swnda Lleiaf
Oddi ar Wicipedia
Ynysoedd yn Indonesia a Dwyrain Timor yw Ynysoedd Swnda Lleiaf (Indoneseg: Nusa Tenggara). Safant ychydig i'r dwyrain o'r Ynysoedd Swnda Mwyaf, gan ffurfio cadwyn o'r gorllewin i'r dwyrain.
Prif ynysoedd[golygu]
Heblaw am Ddwyrain Timor, mae'r ynysoedd i gyd yn Indonesia, wedi eu rhannu rhwng taleithiau Bali, Gorllewin Nusa Tenggara(Nusa Tenggara Barat) a Dwyrain Nusa Tenggara (Nusa Tenggara Timur).