Ynysoedd Ffaröe

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Ynysoedd Faroe)
Føroyar
Mathgwlad ymreolaethol o fewn Brenhiniaeth Denmarc, etholaeth Edit this on Wikidata
PrifddinasTórshavn Edit this on Wikidata
Poblogaeth54,149 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1948 Edit this on Wikidata
AnthemTú alfagra land mítt Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethAksel V. Johannesen Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC±00:00 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Ffaröeg, Daneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolBrenhiniaeth Denmarc, the unity of the Realm, Gogledd Ewrop Edit this on Wikidata
SirBrenhiniaeth Denmarc Edit this on Wikidata
GwladBaner Ynysoedd Ffaröe Ynysoedd Ffaröe
Arwynebedd1,399 km² Edit this on Wikidata
GerllawMôr Norwy Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaGwlad yr Iâ Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau61.9699°N 6.8445°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholLøgting Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethFrederik X, brenin Denmarc Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prime Minister of the Faroe Islands Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethAksel V. Johannesen Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$3,650 million Edit this on Wikidata
CMC y pen$3,000 million Edit this on Wikidata
ArianFaroese króna Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant2.6 Edit this on Wikidata

Ynysfor yng Ngogledd Ewrop rhwng Môr Norwy a Chefnfor yr Iwerydd yw'r Ynysoedd Ffaröe[1] (Ffaröeg: Føroyar, Daneg: Færøerne). Arwynebedd y tir yw 1400 km². Y brifddinas yw Tórshavn (neu Thorhavn), ar ynys Streymoy. Mae'r ynysoedd yn gorwedd tua hanner ffordd rhwng Norwy a Gwlad yr Iâ; yr ynysoedd agosaf i'r de yw Shetland.

Maen Ynysoedd Ffaröe yn dalaith hunanlywodraethol o Ddenmarc ers 1948 gan gymryd cyfrifoldeb am y rhan fwyaf o'u materion, ac eithrio amddiffyn a materion tramor.

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod]

Tórshavn yw'r brifddinas, ac mae ganddi boblogaeth o 19,000; yr ail ddinas yw Klaksvik sydd â phoblogaeth o tua 6,000. Mae trwch gweddill y boblogaeth wedi'i gwasgaru ymysg y pentrefi arfordirol. Mae pobl yn byw ar 17 o'r 22 ynys. Y prif ynysoedd yw Streymoy, Eysturoy, a Vágar. Mae'r rhan fwyaf o'r ynysoedd yn fryniog ac mae'r gweithgareddau amaethyddol yn gyfyngiedig i fagu defaid a thyfu tatws. Mae pysgota a phrosesu pysgod yn ddiwydiannau o bwys.

Ardal yr ynysoedd yw 1,399 cilomedr sgwâr (540 mi.sg), ac nid oes afonydd na llynnoedd o bwys. Mae 1,117 cilomedr (694 mi) o arfordir, ac nid oes ffin tirol gydag unrhyw wlad arall. Yr unig ynys fawr sydd heb drigolion arni yw Lítla Dímun.

Demograffeg[golygu | golygu cod]

Cyrhaeddodd yr ynys boblogaeth o 50,000 am y tro cyntaf erioed yn ei hanes yng nghannol 2017.[2] Mae'r llywodraeth wedi ceisio delio gydag allfudo, yn enwedig allfudo menywod ifanc, a bydd nifer o ddynion yn canlyn gwragedd o Ynysoedd y Ffilipinau i fod i'w priodi.[3] Mae ymdrechion i geisio gymathu newydd-ddyfodiaid i iaith unigryw a diwylliant yr ynysoedd.[4]

Hanes[golygu | golygu cod]

Daeth trigolion gwreiddiol yr ynysoedd yno adeg y Llychlynwyr; mae hanes y drefedigaeth i'w chael yn y Færeyinga Saga.

Porkeri, Ynysoedd Faroe

Diwylliant[golygu | golygu cod]

Mae diwylliant yr ynysoedd yn hannu o olion o'r hen ddiwylliant Lychlynnol-Scandinafaidd wedi'u cymysgu â diwylliant draddodiadol ffermio a physgota cynhaliol.

Iaith gynhenid, a bellach prif iaith swyddogol yr ynys, ydyw'r Ffaröeg, iaith Germanaidd sy'n ymdebygu rhywfaint i'r Islandeg. Dethlir diwrnod nawddsant yr Ynysoedd, Ólavsøka ('Gwylnos Sant Olaff') ar 29 Gorffennaf. Ceir cyfres o ddigwyddiadau yn arwain at y diwrnod. Ar yr 29ain fe agorir Senedd y wlad: y Logting.

Ceir Coleg trydyddol a galwedigaethol, Glasir a Prifysgol Ynysoedd y Ffaröe ar yr ynysoedd, a Ffaroeg yw iaith gweinyddu ac addysgu'r sefydliadau yma gan fwyaf.

Gwleidyddiaeth[golygu | golygu cod]

Wedi'r Ail Ryfel Byd pan meddiannwyd yr Ynysoedd gan luoedd Prydain, cafodd yr Ynyswyr flas ar fod yn hunanlyworaethol gan i Ddenmarc cael ei meddiannu gan y Natsïaid. Yn sgîl hyn cafwyd Refferendwm ar Annibyniaeth yn 1948. Er i'r mwyafrif bleidleisio dros annibyniaeth, penderfynodd Denmarc beidio ildio'n llawn gan roi elfen gref o hunanlywodraeth yn lle.

Ceir trafodaeth gyson ar ddatganoli a bu bwriad cynnal refferendwm ar annibyniaeth yn 2018 [5] ond ni ddaeth hyn i law. Serch hynny mae'r drafodaeth dros ragor o bwerau yn un byw.

Bu'r ynysoedd yn destun chwilfrydedd ac ysbrydoliaeth i genedlaetholwyr Albanaidd sydd eisiau annibyniaeth i'r Alban gan fod yn destun ffilm fer gan y newyddiadurwaig, Lesley Riddoch yn 2018.[6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]