Ynys Southampton
Oddi ar Wicipedia
Ynys yng ngogledd Canada yw Ynys Southampton. Gydag arwynebedd o 41,214 km², hi yw'r fwyaf o'r ynysoedd ym Mae Hudson. Mewn cymhariaeth mae arwynebedd Ynys Môn yn 714 km². Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 712, i gyd yn byw yn yr unig bentref, Coral Harbour (Salliq). Yn weinyddol, mae'r ynys yn rhan o diriogaeth Nunavut.
Ceir dwy warchodfa adar ar yr ynys.