Ynys Rathlin

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ynys Rathlin

Ynys oddi ar arfordir Swydd Antrim, Gogledd Iwerddon yw Ynys Rathlin (Gwyddeleg: Reachlainn, Saesneg: Rathlin Island). Hi yw'r unig ynys a phoblogaeth arni yng Ngogledd Iwerddon; yn 2001 roedd y boblogaeth yn 75. Saif 6 milltir (10 km) o'r tir mawr, a dim ond 15.5 milltir (25 km) o ran agosaf Penrhyn Kintyre yn yr Alban.

Mae fferi yn cysylltu'r ynys a thref Ballycastle ar y tir mawr. Dynodwyd yr ynys yn Ardal Gadwraeth Arbennig, ac mae degau o filoedd o adar y môr o wahanol rywogaethau yn nythu yma.

Rathlin oedd safle ymosodiad cyntaf y Llychlynwyr ar Iwerddon yn 795. Dywedir i Robert Bruce gael lloches yma, ac mae ogof a adwaenir fel "Ogof Bruce", lle dywedir iddo weld y pryf copyn a'i ysbrydolodd i barhau'r frwydr yn erbyn y Saeson. Yn 1575, cipiwyd yr ynys gan Francis Drake a John Norreys, a lladdwyd rhai cannoedd o wragedd a phlant y trigolion, oedd yn perthyn i lwyth MacDonald. Yn 1642, bu lladdfa arall gan filwyr llwyth Campbell o'r Alban, yn ymladd dros y Cyfamodwyr.