Ynys Prince of Wales (Nunavut)
Oddi ar Wicipedia
Ynys yng ngogledd Canada yw Ynys Prince of Wales (Saesneg: Prince of Wales Island). Gydag arwynebedd o 33,339 km² (mewn cymhariaeth mae arwynebedd Ynys Môn yn 714 km²); hi yw'r ddegfed o ran maint o ynysoedd Canada, a'r 40ain o rain maint yn y byd. Nid oes poblogaeth barhaol arni.
Yn weinyddol, mae'r ynys yn rhan o diriogaeth Nunavut. Saif rhwng Ynys Victoria ac Ynys Somerset, i'r de o ynysoedd Queen Elizabeth.