Ynys Okinawa

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Map o'r ynys

Ynys fwyaf yr Ynysoedd Ryukyu yn ne Japan yw Ynys Okinawa (Japaneg: 沖縄本島 Okinawa-hontō neu 沖縄島 Okinawa-jima). Mae ganddi arwynebedd o 1,203 km2 a phoblogaeth o tua 1.3 miliwn. Naha yw'r ddinas fwyaf. Mae'r mwyafrif o'r boblogaeth yn byw yn y de, tra mae gogledd yr ynys yn fynyddig ac yn goediog.

Rhan o Deyrnas Ryukyu oedd Okinawa o'r 15fed ganrif i'r 19eg ganrif. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ymosododd yr Americanwyr ar yr ynys ym Mrwydr Okinawa. Heddiw, mae nifer o ganolfannau milwrol Americanaidd ar yr ynys.

Flag Japan template.gif Eginyn erthygl sydd uchod am Japan. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato