Ynys Kodiak

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lleoliad Ynys Kodiak

Ynys yn perthyn i Unol Daleithiau America yw Ynys Kodiak (Saesneg: Kodiak Island). Saif ger arfordir deheuol Alaska, gyda Chulfor Shelikof yn ei gwahanu o'r tir mawr.

Gydag arwynebedd o 8,975 km², hi yw'r fwyaf i Ynysoedd Kodiak, ac ynys ail-fwyaf yr Unol Daleithiau; mewn cymhariaeth mae arwynebedd Ynys Môn yn 714 km². Mae'n 163 km o hyd ac 13–96 km o led. Mae'n ynys fynyddig a choediog, gyda'r copa uchaf yn cyrraedd 1,353 medr. Cynhwysir dwy ran o dair o'r ynys mewn gwarchodfa natur. Y brifddinas yw Kodiak, yn nwyrain yr ynys. Mae poblogaeth yr ynys tua 10,000.