Ynys Hilbre
Oddi ar Wicipedia
Ynys oddi ar arfordir penrhyn Cilgwri lle cwrdd Glannau Dyfrdwy a Môr Iwerddon yw Ynys Hilbre. Ceir dwy ynys fechan yn ei hymyl a goleudy. Mae'n rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Mae enw'r ynys yn tarddu o gapel canoloesol a godwyd yno i'r Santes Hildeburgh, meudwyes Eingl-Sacsonaidd, a roddodd iddi'r enw Hildeburgheye, sef 'ynys Hildeburgh'. Mae tystiolaeth archaeolegol yn dangos fod pobl wedi trigo ar yr ynys ers Oes y Cerrig.
Gellir croesi ar droed i'r ynys pan fo'r môr allan ac mae'n lle poblogaidd gan ymwelwyr yn yr haf. Y dref agosaf yw West Kirby.