Ynys Dewi

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Y mae Ynys Dewi (Saesneg: Ramsey Island) yn ynys oddi ar arfordir Penfro, gyferbyn â Thyddewi.

Daearyddiaeth[golygu]

Ynys Dewi o Dyddewi

Amgylchynir yr ynys â chlogwyni syrth ac mae'r môr yn rhedeg yn gyflym o'i chwmpas. Ei hyd yw 3.2 km. Mae'n cynnwys 600 erw o dir ac yn codi i 445' (135m) yn ei phwynt uchaf. Mae ei chreigiau'n perthyn i'r cyfnod Ordoficiaidd yn bennaf. Ceir nifer o ffosilau yng ngogledd yr ynys.

Hanes[golygu]

Mae olion dau gapel bach, neu ddwy gell feudwy, ar yr ynys. Gerllaw y mae adfeilion clas (hen fynachlog) a sefyflwyd gan Ddefynog Sant yn gynnar yn Oes y Seintiau. Yn ôl traddodiad, yno y cyfarfu Dewi Sant a Sant Padrig. Darganfuwyd eirch carreg ar y safle.

Creigiau basalt ger Porth Lleuog.

Dywedir fod un o'r capeli bach yn gell feudwy i Sant Iestyn (Lladin, Justinian, neu Stian) tua'r flwyddyn 500. Meudwy o Lydaw oedd Iestyn. Ymsefydlodd ar yr ynys gyda'i ddisgybl Honorius a'i chwaer a'i morwyn hithau. Rhoddodd Dewi Sant dir iddo ar yr ynys ac ar y tir mawr. Yn ôl traddodiad llofruddiwyd Iestyn gan ei weision gan dorri ei ben, ond cododd y sant ei ben i fyny a cherdded dros y tonnau i'r tir mawr. Gofynodd i gael ei gladdu yno; mae olion Capel Iestyn i'w gweld yno heddiw. Yn ddiweddarach dadgladdiwyd ei gorff a chafodd ei osod yn ymyl Dewi Sant yn eglwys gadeiriol Tyddewi. Dywedir fod ffynnon ar Ynys Dewi i ddynodi'r llecyn lle syrthiodd pen y sant gan achosi dŵr i ffrydio o'r ddaear.

Yn ôl traddodiad arall roedd yr ynys ynghlwm wrth y tir mawr yn y gorffennol. Roedd nifer o bererinion yn croesi i weld Justinian ac roedd hynny'n ei aflonyddu beunydd, felly cymerodd fwyall a thorrodd y garreg i ffwrdd nes bod Ynys Dewi'n sefyll ar ben ei hun yn y môr.

Bu ffermio ar yr ynys, er gwaethaf ei natur greigiog, tan yn bur ddiweddar, ac roedd y gymuned fach yn allforio ŷd, menyn, defaid a gwlân i'r tir mawr hyd 1964. Yn 1992 gwerthwyd yr ynys i'r RSPB.

Natur[golygu]

Mae'r ynys yn warchodfa natur ac yn gartref i filoedd o adar môr. Mae mwy na 30 math o adar yn nythu arni. Mae adar fel cigfrain, hebogiaid gleision, gwylanod coesddu a gwylanod eraill i'w gweld yn rheolaidd. O gwmpas yr ogofeydd ac ar y traethau bach niferus gwelir morloi llwydion ym mis Awst a Medi.