Ynys Bute

Oddi ar Wicipedia
Ynys Bute
Mathynys Edit this on Wikidata
PrifddinasRothesay Edit this on Wikidata
Poblogaeth6,498 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirArgyll a Bute Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Arwynebedd12,217 ha Edit this on Wikidata
Uwch y môr278 metr Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor yr Iwerydd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau55.8357°N 5.0564°W Edit this on Wikidata
Hyd24 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Ynys ger arfordir de-orllewin yr Alban yw Ynys Bute (Gaeleg yr Alban: Eilean Bhòid, Saesneg: Isle of Bute). Mae'n un o'r ynysoedd ym Moryd Clud, ac yn rhan o Argyll a Bute. Roedd y boblogaeth yn 2011 yn 6,498. Mae’r ynys 15 milltir o hyd, gyda lled o 4 milltir.[1]

Yr unig dref ar yr ynys yw Rothesay. Ceir hefyd nifer o bentrefi, yn cynnwys Ascog, Ardbeg, Kerrycroy, Kilchattan Bay, Kingarth, Port Bannatyne, Straad a Rhubodach. Cynhesir yr ynys gan Lif y Gwlff ac mae nifer o erddi ar agor i’r cyhoedd.Tŷ Mount Stuart oedd yn gartref i’r Ardalydd Bute.

Mae’n debyg adeiladodd Brenin Magnus Troednoeth o Norwy Castell Rothesay yn ystod ei fordaith ym 1098 i goncro’r ynysoedd yr Alban. Symudwyd rheolaith dros y castell rhwng y Llychlynwyr a brenhinoedd yr Alban am gyfnod estynedig. Cipiwyd y castell gan Frenin Haakon o Norwy ym 1263. Yn ddieddarach, roedd y castell yn gartref i Frenin Robert II ac wedyn i’w fab Brenin Robert III. Cipiwyd y castell gan Iarll Lennox ar rhany saison ym 1544. Dalwyd y castell ar ran Brenin Siarl, ac wedyn ar ran Oliver Cromwell yn ystod y 17g, a dioddefodd y castell difrod gan gefnogwyr Cromwell ym 1659 a gan Ucheldirwyr Argyll ym 1685. Atgyweiriwyd y castell gan ail a thrydydd Ardalyddion Bute.[2]

Claddwyd Stephanie Hortense Bonaparte, nith Napoleon Bonaparte, yng Nghapel Santes Fair, Rothesay..

Mae Ffawt Cyffiniau’r Ucheldir yn croesi’r ynys. Mae'r gogledd yr ynys yn fryniog, gyda choedwigoedd. Mae'r rhan ddeheuol yn wastad: defnyddir y de i ddiwylliad. Mewn yr ochr orllewinol yw traethau. Mae'r gogledd yr ynys wedi cael ei wahanu o ran o'r tir mawr, sef y penrhyn Cowal, gan gulfor.

Cyn y dyfodiad y Gaelaidd, siaradwyd yr iaith Brythoneg yn yr ynys.[2]

Harbwr Rothesay
Bae Ettrick
Bae Sant Ninian


Cludiant[golygu | golygu cod]

Mae fferi Caledonian Macbrayne yn mynd o Wemyss Bay i Rothesay, tua 12 gwaith yn ddyddiol yn ystod yr haf. Mae fferi arall yn cysylltu Colintraive â Rhubodach. Trefnir gwasanaethau bysiau ar yr ynys gan West Coast Motors.[2]

Fferi yn cyrraedd Rothesay
Fferi Colintraive – Rhubodach


Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]