Ynys Bolshevik
Oddi ar Wicipedia
Ynys yn perthyn i Rwsia oddi ar arfordir gogleddol Siberia yw Ynys Bolshevik (Rwseg: о́стров Большеви́к). Hi yw'r fwyaf deheuol o ynysoedd mawr ynysfor Severnaya Zemlya. Mae tua 180 km o hyd a 111 km o led, gydag arwynebedd o 11,312 km², yr ail-fwyaf o ynysoedd Severnaya Zemlya. Nid oes poblogaeth barhaol arni.
Mae'r ynys yn fynyddig, gyda'r copa uchaf yn cyrraedd 935 medr. Ceir gorsaf wyddonol Prima ar yr ynys. Gorchuddir tua 30% o'r ynys gan rew, a cheir tri rhewlif yma. Yn ddiweddar, bu ymgyrch i geisio newid yr enw i Svyataya Olga ("Santes Olga").