Ynys Asuncion
Oddi ar Wicipedia
Ynys sy'n rhan o Ynysoedd Mariana yn y Cefnfor Tawel yw Ynys Asuncion. Yn wleidyddol, mae'n rhan o'r Marianas Gogleddol, sy'n un o diriogaethau tramor Unol Daleithiau America. Yn ddaearyddol, mae'n un o bymtheg copa llosgfynydd sy'n ffurfio Ynysoedd Mariana.
Saif yr ynys i'r gogledd o ynys Agrihan ac i'r de o Ynysoedd Maug. Mae ei harwynebedd yn 7.3 km².