Ynys Arran

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lleoliad Ynys Arran
Am yr ynysoedd yn Iwerddon, gweler Ynysoedd Arann

Ynys oddi ar arfordir gorllewinol yr Alban yw Ynys Arran (Saesneg: Isle of Arran, Gaeleg: Eilean Arainn). Saif ym Moryd Clud (aber Afon Clyde). Hi yw'r seithfed fwyaf o ynysoedd yr Alban, ac roedd y boblogaeth yn 2001 yn 5,058. Mae'r ynys yn rhan o awdurdod lleol Gogledd Swydd Ayr.

Tref bwysicaf yr ynys yw Brodick. Yma mae'r fferi'n cyrraedd o Ardrossan ar y tir mawr. Yn y bae rhwng Lamlash a Whiting Bay mae ynys fechan Eilean MoLaise (Holy Island), lle mae mynachdy Bwdhaidd. Gellir cael fferi yno o Lamlash.

Ar ddechrau'r 20fed ganrif, roedd tua hanner poblogaeth yr ynys yn medru Gaeleg, ond diflannodd yn raddol dros y ganrif. Diflannodd tafodiaith unigryw Arran yn y 1970au, pan fu farw'r siaradwr olaf, Donald Craig. Mae 1.6% o drigolion yr ynys yn medru Gaeleg, ond mewnfudwyr o rannau eraill o'r Alban ydynt.

Y fferi M.V. Caledonian Isles yn cyrraedd Brodick; llun o gopa Goat Fell

Daearyddiaeth[golygu]

"Rhyfelwr Mewn Cwsg"

Mae gogledd Arran yn fynyddig. Y copa uchaf yw Gaoda Bheinn (Goatfell) (874 m,). Mae proffil y mynyddoedd gogleddol hyn o'r tir mawr yn adnabyddus fel "Rhyfelwr Mewn Cwsg" gan ei fod yn edrych fel milwr ar ei gefn a'i ddwylo ar ei fron.

Dolen allanol[golygu]