Ynys Anticosti
Oddi ar Wicipedia
Ynys ynghanol Gwlff St Lawrence yn nwyrain Canada yw ynys Anticosti (Ffrangeg: Île d'Anticosti, Saesneg: Anticosti Island). Yn weinyddol, mae'n rhan o dalaith Quebec.
Gydag arwynebedd o 7,892 km2, hi yw ugeinfed ynys Canada o ran maint. Yn y gogledd, fe'i gwahenir oddi wrth ranbarth Côte-Nord o dalaith Quebec (Penrhyn Labrador) gan Gulfor Jacques Cartier, ac yn y de mae Culfor Honguedo yn ei gwahanu oddi wrth benthyn Gaspé.
Er ei bod yn ynys fawr, ychydig o boblogaeth sydd arni, 266 yn 2001, y rhan fwyaf ym mhentref Port-Menier yng ngorllewin yr ynys.