Ynys Achill
Oddi ar Wicipedia
Ynys Achill (Gwyddeleg: Acaill, Oileán Acla, Saesneg: Achill Island) yw ynys fwyaf Iwerddon. Saif oddi ar arfordir gorllewinol Gweriniaeth Iwerddon, ac mae Pont Michael Davitt yn ei chysylltu a'r tir mawr rhwng pentrefi Gob an Choire a Poll Raithní. Mawndir yw 87% o'r ynys.
Yn 2006, roedd y boblogaeth tua 2,7000, ond cyn Newyn Mawr Iwerddon yn y 19eg ganrif roedd dros 6,000 o bobl yn byw yma. Mae'r pentrefi ar yr ynys yn cynnwys Keel, Dooagh, Dumha Éige a Dugort. Ceir olion trigolion ar yr ynys o tua 3000 CC; cafwyd hyd i rwyf o'r cyfnod yma mewn crannog ger Dookinella. Mae mynydd Slievemore yng nghanol yr ynys yn 672 m o uchder.