Ynys Sgogwm

Oddi ar Wicipedia
Ynys Sgogwm
Mathynys Edit this on Wikidata
PoblogaethEdit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolParc Cenedlaethol Arfordir Penfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1.06 km² Edit this on Wikidata
GerllawSianel San Siôr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.698452°N 5.276802°W Edit this on Wikidata
Hyd1.6 cilometr Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion

Ynys anghyfannedd oddi ar arfordir de-orllewin Sir Benfro yw Ynys Sgogwm[1] (Hen Norseg: Skokholm, o skok ("coed") a holm ("ynys isel"); Saesneg: Skokholm), sy'n gorwedd i'r de o Ynys Sgomer. Ei arwynebedd yw tua 1 filltir sgwâr.

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Mae'r ynys yn enwog am ei chlogwyni Hen Dywodfaen Coch sy'n gartref i nifer o adar môr. Gellir hwylio i'r ynys ar gychod o Martin's Haven ar y tir mawr, ond rhaid cael caniatâd ymlaen llaw gan Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru i lanio arni. Ynghyd ag Ynys Sgomer, mae'r cyfan yn warchodfa natur a'r môr oddi amgylch yn warchodfa môr.

Daeth yr ynys yn adnabyddus y tu allan i Gymru diolch i waith R. M. Lockley, ornitholegwr blaenllaw, a astudiodd adar yr ynys lle bu fyw am flynyddoedd lawer, gan gyhoeddi sawl llyfr ac erthygl amdani. Yn ogystal â'r nifer fawr o adar môr sy'n bridio yno mae hefyd yn safle da i adar mudol sydd weithiau'n denu adar prin iawn.

Hanes[golygu | golygu cod]

Ystyr Sgogwm neu Skokholm yw "ynys goediog". Rhoddwyd ei henw iddi gan y Llychlynwyr a mordeithiau i foroedd de-orllewin Cymru ar ddechrau'r Oesoedd Canol gan adael enwau Norseg ar sawl ynys a llecyn arfordirol arall yn yr ardal. Mae'r enw'n gyffelyb ei ystyr i Stockholm, prifddinas Sweden.

Prynwyd yr ynys am £300 yn 1646 gan gyfreithiwr o'r enw William Philipps, ac arhosodd yn y teulu am 360 o flynyddoedd hyd farwolaeth ei ddisgynnydd olaf Mrs Osra Lloyd-Philipps (1920 - 24 Mawrth, 2005), perchennog Castell Dale. Gwerthwyd yr ynys i'r ymddiriedolaethau natur oedd yn gofalu amdani yn Ebrill 2006, diolch i roddion sylweddol gan aelodau o'r cyhoedd.

Ynys Sgogwm o arfordir Penfro

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Mae "Sgogwm" yn ymddangos yng Ngeiriadur yr Academi.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]