Egni gwynt

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Ynni gwynt)

Pan fo gwynt yn troi llafnau twrbein mae'r generadur yn cynhyrchu trydan, a gelwir yr egni hwn yn egni gwynt.

Caiff egni gwynt ei ddisgrifio fel egni cynaliadwy sy'n lanach na'r dulliau traddodiadol o gynhyrchu trydan: tanwydd ffosil, boed yn olew neu'n danwydd niwclear neu arall. Mae gwynt yn lân, ceir digon ohono ac nid yw'n cynhyrchu carbon deuocsid.

Un o ffermydd gwynt mwyaf Ewrop yw Gwynt y Môr sydd ychydig gilometrau o arfordir Prestatyn.

Mae dyn yn defnyddio egni gwynt ers ganrifoedd: er mwyn teithio ar longau hwylio neu mewn balŵn neu er mwyn ei helpu gyda'i waith, er enghraifft melinau gwynt i bwmpio dŵr neu i falu blawd. Mae'r erthygl hon yn canolbwyntio ar ddefnyddio'r gwynt i gynhyrchu egni trydanol. Cysylltir ffermydd gwynt gyda'r Grid Cenedlaethol a gellir gwerthu trydan iddynt. Mae dau fath: ffermydd arfordirol a ffermydd ar y tir mawr. Er bod yn well gan bobl i'r ffermydd gael eu lleoli ar y môr, mae'r math hwn yn dipyn drytach na ffermydd ar y tir.[1]

Dros gyfnod o flwyddyn mae cyflymder a chryfder y gwynt yn eitha cyson, ond yn y tymor byr, gall fod yn eitha anghyson: heb ddim gwynt ar adegau. Caiff ei ddefnyddio, felly, ochr yn ochr gyda ffynhonellau cynaliadwy eraill e.e. paneli solar neu hydro-drydan.

Erbyn 2015 roedd Denmarc yn cynhyrchu 40% o'i holl drydan drwy harneisio egni gwynt,[2][3] ac mae o leiaf 83 o wledydd ledled y byd yn cynhyrchu rhywfaint o drydan drwy egni gwynt ac yn ei drwosglwyddo i'w gridiau cenedlaethol.[4] Mae cyfanswm y byd yn cynyddu'n flynyddol, ac erbyn 2015 roedd 4% o drydan yn cael ei gynhyrchu gan y gwynt.[5] 11.4% yn yr Undeb Ewropeaidd.[6]

Mathau gwahanol o felinau gwynt
Melin wynt draddodiadol ar Ynys Môn: Melin Llynnon.
Melin wynt draddodiadol ar Ynys Môn: Melin Llynnon. 
Llafnau enfawr melin wynt modern yn Nord-Pas-de-Calais, Ffrainc.
Llafnau enfawr melin wynt modern yn Nord-Pas-de-Calais, Ffrainc
Melin wynt ger Castell Newydd Emlyn, Cymru.
Melin wynt ger Castell Newydd Emlyn, Cymru
Twrbein sy'n arnofio 5km o arfordir Portiwgal.
Twrbein sy'n arnofio 5km o arfordir Portiwgal

Hanes[golygu | golygu cod]

Codwyd y felin wynt cynhyrchu trydan cyntaf yn yr Alban gan yr Athro James Blyth, Coleg Anderson, Glasgow yn 1887.[7] 10 metr oedd uchder y felin wynt a llieiniau cotwm ar yr hwyliau a chodwyd y felin yng ngardd gefn ei dŷ gwyliau yn Marykirk yn Kincardineshire a chasglwyd y trydan mewn batris arbennig a grewyd gan y Ffrancwr Camille Alphonse Faure. Defnyddiodd y trydan i oleuo'r tŷ.[7]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gipe, Paul (1993). "The Wind Industry's Experience with Aesthetic Criticism". Leonardo 26 (3): 243–248. doi:10.2307/1575818. JSTOR 1575818. https://archive.org/details/sim_leonardo_1993_26_3/page/243.
  2. Denmark breaks its own world record in wind energy
  3. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-01-25. Cyrchwyd 2016-03-23.
  4. REN21 (2011). "Renewables 2011: Global Status Report" (PDF). t. 11. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2013-06-19. Cyrchwyd 2016-03-23.
  5. The World Wind Energy Association (2014). 2014 Half-year Report. WWEA. tt. 1–8.
  6. Wind in power: 2015 European statistics- EWEA
  7. 7.0 7.1 Price, Trevor J (3 May 2005). "James Blyth – Britain's First Modern Wind Power Engineer". Wind Engineering 29 (3): 191–200. doi:10.1260/030952405774354921. Archifwyd o y gwreiddiol ar 6 June 2011. https://web.archive.org/web/20110606102707/http://www.ingentaconnect.com/content/mscp/wind/2005/00000029/00000003/art00002.