Ymwthiad

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Dyn yn ymarfer ymwthiadau.

Ymarferiad calisthenig yw'r ymwthiad[1] neu'r byrfraich.[2][3] Gwneir drwy orwedd ar eich blaen ac yn gwthio'r corff i fyny ac i lawr gyda'r breichiau.[4]

Mae'r ymarfer hwn yn targedu cyhyrau'r brif ddwyfronneg, triphen y fraich a'r deltoid blaen yn bennaf, a'r seratws blaen, y trapesiws, a chyhyr syth yr abdomen yn eilaidd.[4]

Ceir nifer o amrywiadau i'r ymarferiad hwn, gan gynnwys yr ymwthiad uchel, yr ymwthiad ochr i ochr, yr ymwthiad unfraich, a'r ymwthiad curo dwylo.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 1073 [press-up].
  2. Geiriadur y BBC
  3. Y Termiadur Addysg
  4. 4.0 4.1 Contreras, Bret. Bodyweight Strength Training Anatomy (Champaign, Illinois, Human Kinetics, 2014), t. 38.