Ymosodiad ar lysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yn Yemen
Oddi ar Wicipedia
Ar 17 Medi, 2008 bu ymosodiad terfysgol ar lysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yn Sana'a, Yemen, a achosodd 19 o farwolaethau[1] ac o leiaf 16 o anafiadau.[2] Bu farw chwe ymosodwr, chwe heddwas Yemenaidd, a saith sifiliad.[3] Hwn oedd yr ail ymosodiad yn yr un flwyddyn ar ôl i ymosodiad morter ar 18 Mawrth, 2008 fethu â bwrw'r llysgenhadaeth a bwrw ysgol ferched gyfagos yn lle.[4] Cyfaddodd Jihad Islamaidd Yemen, grŵp gyda chysylltiadau i al Qaeda, eu bod yn gyfrifol am yr ymosodiad.[3]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ (Saesneg) Death toll in Yemen US embassy attack rises to 19. International Herald Tribune. Associated Press (21 Medi, 2008). Adalwyd ar 31 Hydref, 2008.
- ↑ (Saesneg) Al-Mahdi, Khaled (18 Medi, 2008). US Embassy in Yemen attacked: US condemns assault that killed 16. Arab News. Adalwyd ar 31 Hydref, 2008.
- ↑ 3.0 3.1 (Saesneg) Bauer, Shane (18 Medi, 2008). U.S. Embassy hit in Yemen, raising militancy concerns. Christian Science Monitor. Adalwyd ar 31 Hydref, 2008.
- ↑ (Saesneg) Derhally, Massoud A.; Hall, Camilla (17 Medi, 2008). U.S.'s Yemen Embassy Attacked by Militants; 16 Killed (Update5). Bloomberg.com. Adalwyd ar 31 Hydref, 2008.