Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2008–2009

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Bomio Gaza gan Israel, diwedd Rhagfyr 2008
Llain Gaza

Ymgyrch filwrol a ddechreuodd gyda bomio o'r awyr a'r môr ac a ddatblygodd wedyn i fod yn ymosodiad eang ar dir gan fyddin Israel ar y Palesteiniaid yn Llain Gaza oedd Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2008—2009, neu'r "Ymgyrch Plwm Bwrw" (Operation Cast Lead), fel y'i gelwid yn swyddogol gan lywodraeth Israel. Roedd yr ymgyrch yn rhan o hen ffrwgwd rhwng y ddwy genedl, ffrwgwd a elwir yn Wrthdaro Israelaidd-Palesteinaidd.

Yn nyddiau cynnar yr ymosodiad hwn, lladdwyd 4 Israeliad gan rocedi a thuag 9 milwr ar faes y gâd.[1] Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, erbyn y 30eg o Ragfyr roedd 320 o Balesteiniaid wedi'u lladd, 62 ohonynt yn blant neu'n ferched, cyn yr ymladd ar dir.[2] Yn ninas Gaza, lladdwyd pum chwaer o'r un teulu gan fomiau awyr Israel ar 30 Rhagfyr 2008.[3] Erbyn 19 Ionawr 2009 roedd y ffigwr wedi codi i tua 1,315 o Balesteiniaid wedi'u lladd, gan gynnwys dros 300 o blant, a thros 4,500 wedi'u hanafu; roedd 13 Israeliad wedi marw, gyda dim ond 3 yn sifiliaid, a rhai o'r milwyr wedi eu saethu gan eu byddin nhw eu hunain.[4], gyda'r ffigwr yn debyg o fod yn uwch mewn gwirionedd oherwydd anawsterau hel gwybodaeth dan yr amgylchiadau. Cyhuddwyd Israel o ddefnyddio bomiau ffosfforws gwyn yn ogystal â bomiau sy'n cynnwys iwraniwm disbyddiedig. Yn ogystal dechreuodd UNHRC ymchwiliad i gyhuddiadau o droseddau rhyfel gan Israel.

Daeth yr ymosodiad i ben ar 18 Ionawr, 2009 wedi i Israel ac yna Hamas gyhoeddi cadoediad.[5] Erbyn 21 Ionawr roedd Israel wedi tynnu eu milwyr o Lain Gaza.[6] Ar 2 Mawrth adroddwyd fod noddwyr rhyngwladol wedi addo $4.5 billion fel cymorth ar gyfer y Palesteiniaid, yn bennaf ar gyfer adfer ac ail-adeiladu Gaza yn dilyn y bomio a'r ffrwydro gan yr Israeliaid.[7]

Cefndir[golygu]

Gellir olrain gwreiddiau'r rhyfel i'r gwrthdaro rhwng yr Isaeliaid a'r Palestiniaid yn gyffredinol dros y degawdau ac yn enwedig i'r embargo a osodwyd ar Lain Gaza gan lywodraeth Israel ar ôl i Hamas ennill etholiad 2007 a dod i rym yn Llain Gaza. Arweiniodd hynny at gyfnod o galedi mawr i drigolion y llain oherwydd sancsiynau Israel a gafodd efaith ddifrifol ar safon byw'r bobl ac ar wasanaethau cyhoeddus o bob math, gan gynnwys y gwasanaeth iechyd. Doedd dim modd i neb fynd i mewn neu allan o Gaza heb ganiatâd Israel. Galwodd Hamas ar i Israel agor y ffin ond gwrthodwyd hynny. Mewn ymateb dechreuodd byddin Hamas a grwpiau eraill saethu rocedi bychain dros y ffin a bu "brwydr talu pwythau" ysbeidiol.

Dyma fraslun o'r cefndir i'r rhyfel[8], o Fehefin 2008 ymlaen:

  • 19 Mehefin 2008: Mae'r Aifft yn llwyddo i drefnu cadoediad rhwng Hamas - sydd mewn grym yn Llain Gaza - ac Israel, ac mae'r mudiad hwnnw yn cytuno i roi'r gorau i'w ymosodiadau gyda rocedi, mewn cyfnewid am addewid gan Israel i lacio'r embargo ar y Llain.
  • 6 Tachwedd 2008: Israel yn croesi'r ffin a chipio saith Palestiniad o'u tai.
  • 8 Tachwedd: Tanciau a bulldozers yn croesi ffin ddeheuol Llain Gaza.
  • Cyrch awyr gan Israel sy'n lladd rhai o benaethiad Hamas. Hamas yn saethu rocedi at ddinas Ashkelon yn Israel.
  • 19-29 Tachwedd: Israel yn croesi'r ffin sawl gwaith. Rocedi yn cael eu tanio ar Israel.
  • 2 Rhagfyr 2008: Cyrchoedd awyr gan Israel ar dde Llain Gaza yn lladd o leiaf ddau sifiliad.
  • 17 Rhagfyr: Hamas yn saethu saith roced Qassam sy'n niweidio dau Israeliad yn Sderot.
  • 18 Rhagfyr: Lladd Palestiniad yn Jabaliya wrth i awyrennau Israeli dargedu gweithdai metal yn Jabaliya a Khan Yunis yn Llain Gaza: yn ôl Israel roeddent yn cael eu defnyddio i wneud rocedi.
  • 19 Rhagfyr: Diwedd swyddogol y cadoediad
  • 20 Rhagfyr: Cyrch awyr gan Israel ar Beit Lahiya.
  • 22 Rhagfyr: Cadoediad 24 awr yn cael ei drefni gan yr Aifft.
  • 23 Rhagfyr: Gwrthdaro ar y ffin. Saethu rocedi gan Hamas ac eraill.
  • 24 Rhagfyr: Tanio dros y ffin gan Hamas ac eraill. Cyrch awyr ar dde Llain Gaza gan Israel.

Nifer a laddwyd[golygu]

Sylwer fod cael ystadegau manwl dan yr amgylchiadau yn anodd os nad amhosibl. Seilir y ffigyrau isod ar adroddiadau gan y BBC, a Le Point (Ffrainc)[9] sydd llawer is na ffigurau meddygon lleol.

Dyddiad Palesteiniaid a laddwyd Israeliaid a laddwyd
27 Rhagfyr 2008 230 1
28 Rhagfyr 2008 115 0
29 Rhagfyr 2008 12 3
30 Rhagfyr 2008 10 0
31 Rhagfyr 2008 27 0
1 Ionawr 2009 26 0
2 Ionawr 2009 12 0
3 Ionawr 2009 30 0
4 Ionawr 2009 42 1
5 Ionawr 2009 52 3
6 Ionawr 2009 81 2
7 Ionawr 2009 60 0
8 Ionawr 2009 66 1
9 Ionawr 2009 49 0
10 Ionawr 2009 33 2
11 Ionawr 2009 50 0
12 Ionawr 2009 37 0
14 Ionawr 2009 43 0
17 Ionawr 2009 58 0
18 Ionawr 2009 42 0
19 Ionawr 2009 5 0
Cyfanswm 1315 13

Digwyddiadau[golygu]

Digwyddiadau 2008[golygu]

Cyrff heddweision a laddwyd yn yr ymosodiadau cyntaf o'r awyr

Taniwyd y bomiau cyntaf o awyrennau ar y 27ain o Ragfyr, 2008 am 7.30 amser lleol. Dywed llywodraeth Israel mai ymosod ar dargedi cysylltiedig â Hamas yr oedd, ond yn ystod y deuddydd cyntaf o saethu (yn ôl y Cenhedloedd Unedig) lladdwyd dros 320 o Balesteiniaid, llawer ohonynt yn sifiliaid, ac anafwyd 1400.

Cyn diwedd y dydd cyntaf, roedd Llu Awyr Israel wedi gollwng 100 tunnell o ffrwydron gydag amcangyfrif o 95% yn cyrraedd eu nod, yn ôl ei Llu Awyr. Dywedodd cynrychiolwyr Israel iddi fomio oddeutu cant o ganolfannau megis gorsafoedd heddlu a charchardai'r Palesteiniaid - a hynny o fewn pum munud.[10][11]

Yn ôl llywodraeth Israel, y rheswm am yr ymosodiad yw bod Hamas wedi tanio sawl roced dros y ffin ar ei phobol hi, o Lain Gaza.

Wrth i Israel symud tanciau a milwyr i'r ffin â Llain Gaza, ofnir ymosodiad ar dir hefyd. Ar 30 Rhagfyr adroddwyd yn y papur newydd al-Hayat fod llywodraethau Twrci a'r Aifft yn ceisio rhybuddio Israel y byddai Hezbollah yn debyg o agor ffrynt newydd yn ne Libanus pe bai byddin Israel yn mynd i mewn i Lain Gaza.[12]

Ni fu'r bomio yn gyfyngedig i ardal dinas Gaza yn unig. Cafwyd sawl cyrch bomio awyr yn erbyn twnelau yn ninas Rafah yn ne'r Llain, am y ffin â'r Aifft. Yn ôl adroddiadau dioddefodd y ddinas ei hun niwed sylweddol yn yr ymosodiadau hefyd.[13]

Digwyddiadau 2009[golygu]

Bomiau ffosfforws gwyn Israelaidd yn taro dinas Gaza (Llun: Al Jazeera)
Warws UNRWA yn Gaza yn llosgi ar ôl cael ei daro gan fomiau ffosfforws gwyn Israelaidd
Un o awyrennau jet F-16 Israel. Cafwyd cannoedd o gyrchoedd awyr ar Gaza gan yr awyrennau bomio hyn
Bomio dinas Gaza
12fed ddydd yr ymosodiad: bomio Gaza (Llun: Al Jazeera)
Niwed i dŷ yn Bethsheba, Israel, ar ôl i roced lanio yn ei ymyl
Ysgol i blant amddifad a mosg a ddinistriwyd gan fomiau Israelaidd yn ninas Rafah, de Llain Gaza

Parhaodd y bomio o'r awyr i mewn i'r Flwyddyn Newydd ac ar y 3ydd o Ionawr symudodd tanciau a milwyr Israel i fewn i Lain Gaza i gychwyn yr ymosodiad ar dir, ail ran cyrch Israel.

3ydd-4ydd o Ionawr

Gwelwyd llawer o fomio o awyrennau a hofrenyddion Israel yn rhagflaenu'r milwyr. Roedd y sianel deledu Al Jazeera'n cynnwys ffilmiau o blant wedi eu saethu a'u malu gan fomiau Israel; nid oedd dim o'r lluniau hyn i'w gweld ar y BBC, S4C na Sky News. Yn ôl adroddiadau gan Al Jazeera a lluniau'n fyw o Gaza gan Press TV (yr unig rwydwaith gyda gohebwyr a chriw ffilmio yn Ninas Gaza ei hun), defnyddiodd yr Israeliaid fomiau clwstwr ar ganol y ddinas. Cyrhaeddodd yr ymosodiad ei anterth yn oriau mân y bore ar y 4ydd o Ionawr, gyda taflegrau a bomiau'n disgyn ar y ddinas yn ddibaid bron. Torwyd cysylltiad rhwng y ddinas a de Llain Gaza gan fyddin Israel. Bu'r ymladd yn arbennig o ffyrnig ar ymylon gogleddol Dinas Gaza, yng nghyffiniau dinasoedd Jabaliya a Beit Lahiya. Ar y 4ydd o Ionawr cafwyd adroddiadau fod miloedd o bobl o wersyll ffoaduriad Jabaliya a threfi a phentrefi eraill i'r gogledd o ddinas Gaza yn ffoi ar draed i ganol y ddinas i geisio lloches.

5ed o Ionawr

Credir fod cyflenwadau bwyd a dŵr glân yn rhedeg allan, a moddion ac angenrheidiau meddygol yn brin neu wedi rhedeg allan gyda'r ychydig ysbytai, yn cynnwys Ysbyty Al-Shifa, prif ysbyty Gaza, yn orlawn. Erbyn y 5ed o Ionawr roedd y cyflenwad trydan wedi darfod yn gyfangwbl bron ac roedd yr ysbytai yn dibynnu ar generators, ond gyda thanwydd yn rhedeg allan hefyd rhybuddwyd fod nifer o'r dros 2,700 a anafwyd mewn perygl o farw. Datgelodd meddyg gwirfoddol o Norwy sy'n gweithio yn Ysbyty Al-Shifa fod profion yn dangos olion iwraniwm diraddedig yng nghyrff rhai o'r lladdedigion sifil. Ymddengys fod bomiau DIME (Dense Inert Metal Explosive), sy'n achosi cancr a liwcemia etifeddol yn y bobol hynny sy'n anadlu eu llwch, yn cael eu defnyddio gan yr Israeliaid hefyd. Yn ogystal, cadarnheuwyd gan wefan Times Online fod yr Israeliaid yn defnyddio sieliau ffosfforws gwyn yn yr ymosodiadau ar Lain Gaza, yn cynnwys dinas Gaza ei hun, arfau a ddiffinir fel arfau cemegol.[14]

6ed o Ionawr

Ar 11eg ddiwrnod y rhyfel, ymosododd colofn o danciau Israelaidd gyda chefnogaeth hofrenyddion arfog ar ardal Khan Yunis. Yn ôl AFP, aeth y tanciau i mewn gyda'r wawr. Bu ymladd ffyrnig rhwng y milwyr Israeliaid a rhyfelwyr gwrthsefyll Hamas gyda'r brwydro'n drymaf yn nhref Abasan al-Kabera, un o faesdrefi Khan Yunis, i'r dwyrain o'r ddinas. Lladdwyd rhai sifiliaid yn Khan Yunis ei hun wrth i fomiau disgyn.[15] Yn y prynhawn ar yr un diwrnod, adroddwyd fod dwy o ysgolion y Cenhedloedd Unedig yn Gaza a oedd yn cael eu defnyddio fel llochesi i ffoaduriaid wedi cael eu taro gan fyddin Israel. Lladdwyd tri yn ninas Gaza ond roedd y difrod mwyaf yn ninas Jabaliya lle lladdwyd o leiaf 40 o sifiliaid yn Ysgol Al Fakhara. Nododd llefarydd ar ran UNRWA fod baneri'r Cenhedloedd Unedig yn hedfan uwchben yr ysgolion hyn a bod eu lleoliad manwl wedi'i rhoi i'r Israeliaid er mwyn osgoi digwyddiad o'r fath.[16]

7fed o Ionawr

Parhaodd yr ymladd gyda Hamas yn honni eu bod wedi dinistrio un o danciau brwydro mawr yr Israeliaid, ond cafwyd cadoediad byr a barchwyd gan y ddwy ochr am dair awr ar ddechrau'r pnawn i ganiatau dod â chyflenwadau dyngarol i mewn. Ond cwynodd UNRWA, sy'n gofalu am ffoaduriaid Palesteinaidd, nad oedd hynny'n rhoi digon o amser o gwbl. Dyna hefyd oedd ymateb Muhammad Nazzal, aelod o bolitburo Hamas: dywedodd ar Al Jazeera "dydy tair awr ddim yn ddigon i alluogi pobl i symud a chwilio am gyflenwadau".[17] Gyda'r nos cafodd dinas Rafah a rhannau eraill o dde Llain Gaza ei bomio'n drwm gan lluoedd Israel. Yn gynharach, yn ystod y cadoediad dros dro, roedd awyrennau Israelaidd wedi disgyn miloedd o bamffledi yn rhybuddio trigolion Rafah i adael eu cartrefi.[18]

8fed o Ionawr

Yn oriau mân y bore ymosododd rhai dwsinau o danciau ar dde Llain Gaza gan symud i gyfeiriad Khan Yunis. Bu bomio trwm dros nos gan awerynnau Israel ar Rafah a thros y llain i gyd: 60 cyrch awyr i gyd, y mwyaf mewn un noson ers dechrau'r rhyfel. Saethwyd 4 roced o dde Libanus i Israel yn y bore a saethodd Israel 5 roced yn ôl yn nes ymlaen.[19] Cafwyd cadoediad am 3 awr eto, ond bu tanio ysbeidiol er hynny: cwynodd UNRWA fod milwyr Israel wedi saethu ar un o'i gonfois cymorth dyngarol yn ystod y "cadoediad", gan ladd un o'i weithwyr, er bod y tryciau yn hedfan baner y CU a bod UNRWA wedi rhoi manylion llawn am daith y confoi i fyddin Israel o flaen llaw. Cyhoeddodd yr asiantaeth nad oedd ganddynt ddewis dan yr amgylchiadau ond rhoi'r gorau ar geisio mynd â chyflenwadau i mewn "oherywdd yr ymosodiadau cynyddol dreisgar gan Israel yn erbyn ei eiddo a'i staff".[20][21] Hefyd yn ystod y cadoediad 3 awr, cafwyd hyd i gyrff tua hanner cant o bobl, sifiliaid yn bennaf, a laddwyd dros y dyddiau diwethaf a chyhoeddwyd fod 763 o Balesteiniaid wedi'u lladd a 3,100 wedi'u hanafu erbyn hynny.[20]

9fed o Ionawr

Er gwaethaf pasio penderfyniad brys gan Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig yn galw am gadoediad[22], parhau wnaeth yr ymladd gyda llywodraeth Israel yn cadarnhau yn swyddogl fod trydedd ran yr "Ymgyrch Plwm Bwrw" yn dechrau. Dros nos a thrwy'r bore, wrth i'r CU gwrdd yn Efrog Newydd, cafwyd o leiaf hanner cant o ymosodiadau o'r awyr ar ddinas Gaza, Rafah a lleoedd eraill. Yn y prynhawn roedd brwydro ffyrnig yn ardal Beit Lahiya a Jabaliya. Ers dechrau'r rhyfel, Press TV a'r sianel Arabeg rhyngwladol Al-Alam oedd yr unig rai gyda phresenoldeb yn Gaza ei hun (roedd gan Al-Jazeera a'r BBC newyddiadurwyr lleol yn adrodd ar eu rhan hefyd). Roedd y newyddiadurwyr rhyngwladol hyn yn defnyddio adeilad yng nghanol dinas Gaza ac wedi rhoi manylion llawn ei leoliad i'r awdurdodau Israelaidd a'r Cenhedloedd Unedig er mwyn diogelwch. Roedd y staff wedi cadw'r golau ymlaen ar lawr uchaf yr adeilad trwy gydol y rhyfel hefyd, er mwyn ei ddiogelu. Er hynny, tua 1700 UTC ar y 9fed o Ionawr 2009 trawyd yr adeilad gan roced Israelaidd gan anafu dau o'r staff a difrodi rhan o'r offer darlledu. Doedd dim bomio arall yn y gymdogaeth a chyhuddodd Press TV yr Israeliaid o ymosod yn fwriadol ar y newyddiadurwyr, yn groes i gyfraith ryngwladol. Drwgdybiwyd fod yr ymosodiad yn ymgais i rwystro'r unig ffynhonnell lluniau byw o Gaza rhag darlledu ar y diwrnod y cyhoeddodd llywodraeth Israel fod trydedd ran "Ymgyrch Plwm Bwrw" yn cychwyn a'r Israeliaid ar fin ceiso anfon eu milwyr i mewn i'r ddinas ei hun.[23]

10fed o Ionawr

Parhaodd ymgyrch bomio Israel dros nos gydag o leiaf 40 o gyrchoedd awyr a saethu gan danciau. Bu ymladd ysbeidiol hefyd yn ystod y cadoediad 3 awr ganol dydd yn enwedig yn Jabaliya, Beit Lahiya ac ardal Zeitoun ar ymyl dinas Gaza. Ganol y pnawn gollyngodd awyrennau'r Israeliaid filoedd o bamffledi ar ddinas Gaza yn rhybuddio pobl i aros yn eu cartrefi a pheidio gwneud unrhyw beth i gynorthwyo milwyr Palesteinaidd. Gollyngwyd nifer o fomiau ffosfforws gwyn ar gyrion y ddinas ac ymledodd cymylau tocsig mawr dros y maesdrefi gan beryglu iechyd y trigolion. Yn Efrog Newydd roedd Cyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig (UNHRC) yn cwrdd i drafod cyhuddiad gan Navi Pillay, Uwch Gomisiynydd dros Hawliau Dynol y CU, fod yr IDF ac Israel yn euog o gyflawni trosedd rhyfel trwy ladd tua 40 o sifiliaid, yn ferched a phlant, yn fwriadol mewn tŷ yn Zeitoun ar ôl gorchymyn iddynt fynd yno; gadawyd y goroeswyr gyda chyrff y meirw am bedwar diwrnod heb fwyd na diod.[24] Gyda'r nos dechreuodd ymladd ffyrnig ar gyrion dinas Gaza a mannau eraill.

11eg o Ionawr

Adroddwyd fod awyrennau Israelaidd wedi bomio ar hyd y ffin rhwng Llain Gaza a'r Aifft gan anafu pedwar ar yr ochr Eifftaidd. Pwrpas y bomio, yn ôl cynrychiolydd Israel oedd dileu'r twneli rhwng y Llain a'r Aifft. I'r dwyrain o Khan Yunis ac Abasan bu ymladd trwm yn ystod y dydd. Bregus iawn oedd y cadoediad canol dydd. Yn y pnawn cyhoeddodd yr IDF fod miloedd o filwyr wrth gefn wedi cael eu hanfon i mewn. Ymosododd llongau rhyfel Israel ar orllewin dinas Gaza.[25] Erbyn hanner nos roedd ymladd ffyrnig - y trymaf ers i'r rhyfel ddechrau - yn digwydd ym maesdrefi gogleddol a dwyreiniol dinas Gaza. Mae Zeitoun, yn nwyrain dinas Gaza, yn ardal gyda dwysedd uchel o bobl ac yno yr oedd yr ymladd yn drymaf. Dywedodd adain filwrol Hamas eu bont yn brwydro yn ôl ac yn atal yr ymosodiad. Yn ôl meddygon yn Gaza, lladdwyd 38 o bobl, gan ddod â'r cyfanswm i tua 900 (276 yn blant) a nifer yr anafiedig i tua 4,300.[26] Yn gynharach yn y dydd cyhoeddodd Ehud Olmert, Prif Weinidog Israel, "y byddai'r ymgyrch yn parhau."[27] Ychwanegodd fod prif nôd Israel yn yr ymgyrch fwy neu lai wedi'i gyrraedd.[28]

12fed o Ionawr

Bomiwyd sawl rhan o'r Llain yn ystod y nos, yn cynnwys Rafah. Unwaith eto cafwyd brwydro ffyrnig ym maesdrefi dinas Gaza ond tynnod yr IDF yn ôl cyn y wawr. Bu ymladd yn ystod y dydd hefyd a saethodd y Palestiniaid 17 o rocedi at dde Israel: tarawyd Sderot Bethsheba ac Ashkelon. Gyda'r nos cafwyd ymosodiadau gan Israel o'r môr a'r awyr a chyrchoedd ar ddinas Gaza gan danciau a milwyr o dri chyfeiriad a oedd yn symud tuag at ganol y ddinas. Trawyd Gaza gan nifer o fomiau ffosfforws gwyn. Bu ymladd trwm yng nghyffiniau Khan Yunis a'r de hefyd.

13eg o Ionawr

Yn oriau mân y bore dwyshaodd yr ymladd o gwmpas dinas Gaza ac yn y maesdrefi i'r de, y gogledd a'r dwyrain o'r ddinas. Gollyngwyd nifer o fomiau ffosfforws gwyn ar y maesdrefi. Parhaodd y brwydro ar raddfa lai yn ystod y dydd, ac adroddwyd fod yr IDF wedi llwyddo i symud rhai cannoedd o fedrau i mewn i'r maesdrefi.[29] Gyda Ban Ki-Moon, Ysgrifennydd Cyffredinol y CU, yn ymweld â'r Dwyrain Canol ar y 14eg, dwyedodd Ehud Barak, Gweinidog Amddiffyn Israel, fod yr ymladd am barhau gan nad oedd yr IDF wedi gorffen ei gwaith eto.[30]

14eg o Ionawr

Bu llai o gyrchoedd gan awyrennau dros nos ond bu ymladd ffyrnig eto ym maesdrefi dinas Gaza wrth i'r IDF geisio gwthio ymhellach i mewn i'r ddinas. Cyhoeddodd John Ging, pennaeth UNRWA yn Llain Gaza, fod "hanner miliwn o bobl heb ddŵr" yno a'r gwasanaeth iechyd mewn cyflwr peryglus. Roedd dros 1,000 o bobl wedi'u lladd.[31] Saethwyd 3 roced gan rywrai o dde Libanus i Israel ac yn ôl y papur newydd Libanaidd As-Safir, saethodd Israel 7 roced i dde Libanus mewn ymateb: gyda nos roedd Israel yn gosod tanciau, milwyr a hofrenyddion ychwanegol ar hyd y ffin ac roedd byddin Libanus a milisia Hezbollah ar "alert coch".[32] Erbyn hanner nos yn ninas Gaza ei hun roedd bomiau o danciau a hofrenyddion yn disgyn ar draws y ddinas gyfan a thrawyd nifer o dai ac ardaloedd preswyl.

15fed o Ionawr

Cafwyd yr hyn a ddisgrifwyd fel "y diwrnod mwyaf gwaedlyd hyd yn hyn" ar y 15fed gyda nifer o ymosodiadau am tua 18 awr ar draws Llain Gaza o gyffiniau Rafah yn y de i ddinas Gaza yn y gogledd. Yn ninas Gaza cyrhaeddodd tanciau Israel o fewn 1.5 km i ganol y ddinas. Trawyd tri ysbyty yn cynnwys Ysbyty Al-Quds: llwyddodd y staff i gael y 500 o gleifion yno allan ond aeth yr adeilad ar dân am oriau.[33] Trawyd adeilad a oedd yn ganolfan i newyddiadurwyr, yn cynnwys y BBC. Trawyd pencadlys UNRWA gan fomiau Israelaidd ac aeth y warws - a oedd yn llawn o stociau bwyd a meddyginiaethau yn aros i gael eu dosbarthu - ar dân; ymledodd y tân i storfa tanwydd UNRWA a chododd cwmwl o fwg du dros y ddinas. Roedd tua 700 o bobl yn cysgodi yno ond llwyddodd pawb i ddianc. Yn ôl John Ging, pennaeth UNRWA, defnyddiodd yr Israeliaid bomiau ffosfforws gwyn.[34][35] Galwodd Ban Ki-moon yr ymosodiad yn "outrage".[36] Parhaodd yr ymladd gyda'r nos. Amcangyfrifwyd fod o leiaf 90 o bobl wedi'u lladd, yn cynnwys Saeed Siyam, un o weinidogion y llywodraeth Hamas, a channoedd wedi'u hanafu. Saethwyd tua 30 o rocedi o Gaza i Israel; chafodd neb ei ladd. Tri roced a daniwyd heddiw tuag at Israel.

16eg o Ionawr

Diwrnod 21 y gyflafan. Ar ôl ymladd trwm ym maesdrefi de a dwyrain dinas Gaza dros nos, tynnodd tanciau a milwyr Israel allan i gyrion y ddinas gyda'r wawr ar ôl wynebu gwrthsafiad ffyrnig gan ryfelwyr Palesteinaidd. Cafwyd diwrnod "cymharol dawel" ond lladdwyd tua 40 o bobl gan fomiau yn Llain Gaza er hynny gan ddod â'r cyfanswm i tua 1,160 wedi'u lladd a rhwng 4,500 a 5,300 wedi'u hanafu. Gyda'r nos disgynodd bomiau ar rannau o ddinas Gaza a bu ymladd trwm ar y cwr gogleddol. Lladdwyd gwraig a'i phum plentyn gan fom yn Jabaliya. Ym maesdref Tar al-Hawa, ar gyrion deheuol dinas Gaza, tynwyd cyrff tua 20 o bobl a laddwyd y noson flaenorol o adfeilion eu tai. Parhaodd y symudiadau diplomyddol yn Washington, Cairo a Doha a chynyddodd y pwysau ar Israel i atal yr ymosodiad (gweler isod).[37]

17eg o Ionawr

Bu rhan o'r nos yn gymharol dawel ond bomiodd tanciau a llongau Israel gyrion dinas Gaza yn drwm yn oriau mân y bore. Parhaodd yr ymladd ar draws Llain Gaza yn ystod y dydd. Am chwarter i saith amser lleol, saethodd tanciau Israelaidd fomiau ffosfforws gwyn ar un o ysgolion UNRWA yn Beit Lahiya, fymryn i'r gogledd o Gaza ei hun. Roedd 1,600 o sifiliaid yn cysgodi yno. Aeth rhan o'r adeilad ar dân ac yn fuan ar ôl hynny saethwyd rownd arall a laddodd ddau blentyn. Saethwyd eto wrth i'r ffoaduriaid geisio dianc a lladdwyd pedwar o sifiliad arall. Galwodd John Ging, pennaeth UNRWA, am ymchwiliad llawn i hyn ac ymosodiadau eraill gan Israel yn Gaza fel troseddau rhyfel posibl.[38] Cyhoeddodd Israel gadoediad unochrog i ddechrau am hanner nos (0000 UTC) ond parhaodd yr ymladd ac erbyn hanner nos roedd brwydro ysbeidiol yn parhau gyda bomiau ffosfforws yn taro dinas Gaza. Saethwyd 8 roced o Lain Gaza i dde Israel yn ystod y dydd. Roedd Hamas, sydd wedi cael ei anwybyddu gan Israel, yn gwrthod y cadoediad unochrog am fod Israel yn cadw ei byddin yn Llain Gaza ac yn gwrthod codi'r gwarchae.[39]

Cadoediad[golygu]

Erbyn y wawr ar y 18fed o Ionawr roedd yr ymladd wedi peidio bron. Cyhoeddodd y llywodraeth Hamas eu bod am gadw cadoediad am gyfnod wythnos i roi cyfle i Lu Amddiffyn Israel dynnu allan o Lain Gaza. Yn nes ymlaen cyhoeddodd grwpiau llai fel Fatah eu bod yn ymuno hefyd. Galwodd Hamas ar i Israel agor y ffiniau a chodi'r gwarchae ar Lain Gaza hefyd. Erbyn i'r cadoediad ddod i rym roedd dros 1,300 o bobl wedi'u lladd - dros 400 ohonynt yn blant - a 5,000 neu ragor wedi'u hanafu yn Llain Gaza. Roedd tua 22,000 o adeiladau preswyl angen eu hatgyweirio a thua 4,000 wedi'u dinistrio yn gyfangwbl gyda degau o filoedd o bobl yn ddigartref mewn canlyniad. Rhybuddiodd WHO fod perygl mawr o afiechyd oherwydd cyrff y meirw dan y dinystr a charthffosiaeth yn gorlifo.[40][41]

Dywedodd llywodraeth Israel ei bod wedi cyflawni ei gorchwyl yn Gaza. Dywedodd Hamas fod y Palesteiniaid wedi ennill buddugoliaeth fawr dros un o fyddinoedd grymusaf y byd.

Argyfwng dyngarol[golygu]

Sefyllfa'r sifiliaid[golygu]

Plant dychrynedig yn Ysbyty Al-Shifa yn ystod yr ymosodiad ar ddinas Gaza
Rhan o'r dinistr: adfeilion mosg yn ninas Gaza

Yn ystod y rhyfel credid fod cyflenwadau bwyd a dŵr glân yn dod i ben, a moddion ac angenrheidiau meddygol yn brin neu wedi darfod gyda'r ychydig ysbytai, yn cynnwys Ysbyty Al-Shifa, prif ysbyty Gaza, yn orlawn. Erbyn y 5ed o Ionawr roedd y cyflenwad trydan wedi darfod yn gyfangwbl bron ac roedd yr ysbytai yn dibynnu ar generators, ond gyda thanwydd yn affwysol o brin hefyd rhybuddwyd fod nifer o'r 2,700 a anafwyd mewn perygl o farw.[14]

Erbyn y 14eg o Ionawr, roedd tua 300 o blant wedi'u lladd a thros 1,500 wedi'u hanafu, nododd UNICEF. Mewn datganiad arbennig i'r wasg, galwodd UNICEF ar i'r ddwy ochr i wneud popeth yn eu gallu i amddiffyn y plant. "Mae hyn yn drasig, mae hyn yn annerbyniol," nododd y datganiad. Yn ôl UNICEF roedd y sefyllfa yn Gaza yn eithriadol oherwydd doedd yna "nunlle i ddianc, dim noddfa i'w chael." Nodwyd hefyd: "Rhaid rhoi blaenoriaeth absoliwt i amddiffyn y plant... sydd wedi colli eu cartrefi, sy'n methu cael dŵr, trydan a meddyginiaeth; ond y tu draw i'r creithiau corfforol arswydus fodd bynnag, y mae anafiadau seicolegol dyfnach y plant hyn," a fydd yn cymryd amser maith i'w gwella.[42]

Erbyn i'r cadoediadau ar y ddwy ochr ddod i rym ar y 18fed o Ionawr, roedd o leiaf 1,300 o bobl wedi'u lladd ac oddeutu 5,000 wedi'u hanafu yn Llain Gaza. Roedd nifer y lladdedigion yn debygol o godi wrth i ddwsinau o gyrff wedi eu claddu dan yr adfeilion gael eu darganfod; roedd nifer ohonynt yn sifiliaid, gan cynnwys merched a phlant. Roedd tua 22,000 o adeiladau preswyl angen eu hatgyweirio a thua 4,000 wedi'u dinistrio yn gyfangwbl gyda degau o filoedd o bobl yn ddigartref mewn canlyniad. Rhybuddiodd WHO fod perygl mawr o afiechyd oherwydd cyrff y meirw dan y dinystr a charthffosiaeth yn gorlifo.[43]

Cyhuddiadau o droseddau rhyfel[golygu]

Mae Israel wedi cael ei beirniadu gan sawl grŵp hawliau dynol, asiantaethau dyngarol ac eraill am ddefnyddio arfau anghonfensiynol yn erbyn sifiliaid Gaza. Mae hyn yn cynnwys y defnydd o fomiau ffosfforws gwyn ar ardaloedd dinesig.[44] Yn ôl y meddygon yn Ysbyty Al-Shifa yn ninas Gaza, roedd nifer uchel o'r sifiliaid anafiedig yn dioddef o anafiadau llosg dwfn. Mae dafnau o'r cemegyn ffosfforws gwyn yn llosgi trwy'r cnawd i'r asgwrn. Yn ôl llygad-dystion sifilaidd, defnyddiwyd bomiau ffosfforws gwyn dros ddinas Gaza a Jabaliya yn ail wythnos y rhyfel. Roedd y bomiau'n tasgu cannoedd o ddafnau llosg dros ardaloedd lle mae nifer o bobl yn byw yn agos iawn i'w gilydd yn Jabaliya. Roedd y mwg gwyn trwchus yn drewi'n ofnadwy ac yn tagu pobl a'i gwneud yn anodd i bobl anadlu. Adroddodd llygad-dyst arall ei bod hi wedi gweld "fflach llachar ac wedyn syrthiodd nifer o wreichionau dros y gymdogaeth gan lanio o gwmpas pobl ac ar eu tai." Dywedodd bod matresi yn ei thŷ hi wedi mynd ar dân o ganlyniad i hyn. Mae'r grŵp Americanaidd Human Rights Watch yn dweud er nad yw defnyddio ffosforws gwyn ar faes y gad yn anghyfreithlon ynddo ei hun, mae ei ddefnyddio yn fwriadol yn erbyn ardaloedd llawn o sifiliaid yn torri cyfraith ryngwladol.[45]

Datgelodd meddyg gwirfoddol o Norwy sy'n gweithio yn Ysbyty Al-Shifa fod profion yn dangos olion iwraniwm (depleted uranium) yng nghyrff rhai o'r lladdedigion sifil. Ymddengys fod bomiau DIME (Dense Inert Metal Explosive), sy'n achosi cancr a liwcemia etifeddol ym mobl sy'n anadlu eu llwch, yn cael eu defnyddio gan yr Israeliaid hefyd.[14]

John Ging yn siarad a'r wasg o flaen yr ysgol a fomiwyd gan yr IDF yn Gaza.

Ar y 6ed o Ionawr adroddwyd fod dwy o ysgolion y Cenhedloedd Unedig yn Gaza a oedd yn cael eu defnyddio fel llochesi i ffoaduriaid wedi cael eu taro gan fyddin Israel. Lladdwyd tri yn ninas Gaza ond roedd y difrod mwyaf yn ninas Jabaliya lle lladdwyd o leiaf 40 o sifiliaid yn Ysgol Al Fakhara. Nododd llefarydd ar ran UNRWA fod baneri'r Cenhedloedd Unedig yn hedfan uwchben yr ysgolion hyn a bod eu lleoliad manwl wedi'i rhoi i'r Israeliaid er mwyn osgoi digwyddiad o'r fath.[16] Ar yr 8fed o Ionawr ccwynodd UNRWA fod milwyr Israel wedi saethu ar un o'i gonfois cymorth dyngarol yn ystod y "cadoediad", gan ladd un o'i weithwyr, er bod y tryciau yn hedfan baner y CU a bod UNRWA wedi rhoi manylion llawn am daith y confoi i fyddin Israel o flaen llaw. Dywedodd UNRWA fod y diwyddiad yn rhan "o'r ymosodiadau cynyddol dreisgar gan Israel yn erbyn ei eiddo a'i staff".[20][21] Am chwarter i saith amser lleol ar yr 17eg o Ionawr, saethodd tanciau Israelaidd fomiau ffosfforws ar un o ysgolion UNRWA yn Beit Lahiya, fymryn i'r gogledd o Gaza ei hun. Roedd 1,600 o sifiliaid yn cysgodi yno. Aeth rhan o'r adeilad ar dân ac yn fuan ar ôl hynny saethwyd rownd arall a laddodd ddau blentyn. Saethwyd eto wrth i'r ffoaduriaid geisio dianc a lladdwyd pedwar o sifiliad arall. Galwodd John Ging, pennaeth UNRWA, am ymchwiliad llawn i hyn ac ymosodiadau eraill gan Israel yn Gaza fel troseddau rhyfel posibl.[46]

Ar y 14eg o Ionawr, dywedodd Miguel d'Escoto Brockmann, Arlywydd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, fod ymosodiad Israel ar Gaza "yn hil-laddiad."[47] Yn ei araith i ail-agor 10fed Sesiwn Arbennig y Cynulliad Cyffredinol ar y 15fed o Ionawr, dywedodd: "If this onslaught in Gaza is indeed a war, it is a war against a helpless, defenseless, imprisoned population" a "The violations of international law inherent in the Gaza assault have been well documented: Collective punishment. Disproportionate military force. Attacks on civilian targets, including homes, mosques, universities, schools." Ychwanegodd, "the relentless onslaught continues in Gaza. Gaza is ablaze. It has been turned into a real burning hell." Galwodd Israel yn "a State in contempt of international law and the United Nations" ac am ddiwedd buaned â phosibl i'r "gyflafan" "slaughter").[48]

Cynhaliwyd Sesiwn Arbennig o Cyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig (UNHRC) i ystyried tystiolaeth fod yr IDF ac Israel yn euog o gyflawni trosedd rhyfel trwy ladd tua 40 o sifiliaid, yn ferched a phlant, yn fwriadol mewn tŷ yn Zeitoun ar ôl gorchymyn iddynt fynd yno; gadawyd y goroeswyr gyda chyrff y meirw am bedwar diwrnod heb fwyd na diod.[24] Yn Genefa ar yr 11eg o Ionawr 2009, pleidleisiodd y Cyngor i basio penderfyniad "yn condemnio ymosodiad milwrol Israel ar Lain Gaza" sydd wedi arwain at "massive violations of human rights of the Palestinian people." Allan o'r 47 aelod, pleidleisiodd 33 o blaid gyda gwledydd Undeb Ewrop yn atal eu pleidlais a Canada yn unig yn erbyn. Mae'r penderfyniad yn cyhuddo Israel o "systematically destroying Palestinian infrastructure and of targeting civilians and medical facilities".[49]

Daeth mwy o dystiolaeth i'r amlwg yn ystod y cadoediad. Datgelodd un tad Palesteinaidd fod milwr Israelaidd wedi saethu dwy o'i ferched ifainc mewn gwaed oer ar ôl iddo ef a'i deulu gael eu gorchymyn i adael eu cartref. Daethant allan yn dal baneri gwyn yn uchel a'i dwylo i fynny. Roedd tanc Israelaidd deg metr i ffwrdd. Saethodd un o'r milwyr y ddwy ferch yn farw gan daro un ohonynt 12 gwaith yn ei brest. Dinistriwyd y cartref wedyn gan fomiau o'r tanc.[50] Ar yr un diwrnod ag y datgelwyd hyn, ymwelodd Ban Ki-moon, Ysgrifenydd Cyffredinol y CU, â dinas Gaza a'r gogledd ar yr 20fed o Ionawr. Dywedodd fod yr hyn a welodd yn "ddychrynllyd" a galwodd am ymchwiliad llawn i'r bomio o wersylloedd UNRWA gan yr IDF, a oedd yn "ymosodiad wrthun a hollol annerbyniol ar y CU" gan ychwanegu y byddai'r rhai fu'n gyfrifol yn "atebol" am eu gweithrediadau.[51]

Ymateb rhyngwladol[golygu]

Rali protest er mwyn y Palesteiniaid ym Melbourne, Awstralia, Ionawr 2009, un o nifer o brotestiadau cyffelyb ledled y byd yn erbyn y rhyfel

Ymateb i'r ymgyrch fomio gychwynnol[golygu]

Cafwyd galwadau gan lawer o wledydd y Byd Arabaidd o fewn y deuddydd cyntaf: galwodd aelodau o'r Gynghrair Arabaidd (sef Libya, Syria, Gwlad Iorddonen, Libanus ac Yemen) ar Israel i ymatal, gan gondemnio ei gweithredoedd treisgar. Condemniodd Rwsia, Ffrainc a Phrydain y ddwy ochor. Dim ond condemnio Hamas wnaeth yr Unol Daleithiau. Galwodd y Y Cenhedloedd Unedig ar i'r ddwy ochor roi'r gorau iddi.[52]

Yn y byd Arabaidd ac Islamaidd, beirniadwyd llywodraethau yr Aifft a Saudi Arabia yn hallt am rwystro galw cynhadledd frys o'r Gynghrair Arabaidd i drafod y sefyllfa. Cyhoeddodd Twrci ei bod am beidio gweithredu fel canolwr yn y drafodaethau heddwch rhwng Israel a Syria oherwydd y sefyllfa yn Gaza; mae'r trafodaethau wedi eu gohirio am gyfnod amhenodol.[53]

Cafwyd nifer o wrthdystiadau ar y stryd yn y Dwyrain Canol, yn enwedig yng Ngwlad Iorddonen, y Lan Orllewinol, Libanus a'r Aifft ond hefyd yn Iran, Irac, Twrci a'r Yemen. Yn Ewrop bu sawl protest yn cynnwys rhai yn Athen, Caerdydd[54] a Llundain.

Ymateb i oresgyniad Llain Gaza gan Israel[golygu]

Yn Gaza mae 'na drychineb ddyngarol. Mae'r blocâd yn golygu nad oes gan bobl gyflenwadau meddygol na'r adnoddau i ailgodi eu tai. All yr ysbytai ddim ymdopi â nifer yr anafiadau.
Linda Rogers, Ymgyrch Heddwch a Chyfiawnder Bangor ac Ynys Môn[55]

Yng Nghymru bu gwrthdystiadau ym Mangor, Caernarfon ac Abertawe ar 3 Ionawr 2009 wedi i Israel anfon lluoedd i fewn i Lain Gaza. Ym Mangor gorymdeithiodd 100 o Foslemiaid o'r mosg i ganol y ddinas. Yng Nghaernarfon bu 40 aelod o Grŵp Heddwch a Chyfiawnder Arfon yn picedu archfarchnad Morrisons am ddwy awr ac yn annog siopwyr i foicotio ffrwythau o Israel. Yn Abertawe mynychodd oddeutu 200 o bobl rali yn Sgwâr y Castell lle cafodd cannoedd o ganhwyllau eu cynnau i goffáu y rhai gafodd eu lladd.[55] Parhaodd y prostestiadau yng Nghymru ac ar draws y byd wrth i'r drais barhau, gyda gwrthdystiadau mewn nifer o ddinasoedd yn yr Unol Daleithiau, Gwlad Belg, Sbaen, Yr Ariannin, Venezuela, Awstralia, Japan, Malaysia, Iran, Twrci a sawl lle arall. Gorymdeithiodd 60,000 o bobl trwy strydoedd Amman, Gwlad Iorddonen, a chafwyd protestiadau mawr yn Libanus a Syria hefyd. Ar y Lan Orllewinol bu rhai o'r protestiadau yn dreisgar a lladdwyd un protestwr gan filwyr Israelaidd.

Ymateb rhyngwladol i'r rhyfel: Du = Israel-Gaza; Glas = Gwladwriaethau a gefnogodd Israel neu a gondemniodd Hamas yn unig; Coch = Gwladwriaethau a gondemniodd ymosodiad Israel; Gwyrdd golau = Gwladwriaethau a arosodd yn niwtral gan alw am gadoediad ar y ddwy ochr; Llwyd = dim manylion

Yn rhyngwladol cafwyd ymateb cymysg ar ddechrau'r ymosodiad ar dir. Condemniodd Nicolas Sarkozy, Arlywydd Ffrainc, symudiad Israel yn hallt a chyffelyb oedd ymateb Mecsico hefyd. Galwodd Sbaen ar i Israel dynnu allan ar unwaith a rhybuddiodd llywodraeth Japan y gallai'r ymladd arwain at ddatblygiadau annymunol yn y Dwyrain Canol. Comdemniwyd yr ymosodiad gan Rwsia hefyd a galwyd am gadoediad ar unwaith. Galwodd llywodraeth y DU am gadoediad ar unwaith ond heb gondemnio Israel. Gwahanol iawn fu'r ymateb yn yr Unol Daleithiau: parhaodd yr Americanwyr i gefnogi Israel a chondemnio Hamas gan rwystro'r alwad am gadoediad a roddwyd gerbron Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig a chadwodd yr Arlywydd Etholedig Barack Obama yn ddistaw. Mae Obama wedi cael ei feirniadu'n hallt gan rai yn y gwledydd Arabaidd a oedd wedi croesawu ei ethol yn arlywydd UDA cyn hynny. Galwodd Arlywydd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig yr ymosodiad gan Israel "yn beth erchyll" (monstrosity). Dywedodd llywodraeth Qatar fod gweithred Israel yn "drosedd rhyfel". Mae Twrci, un o aelodau pwysicaf NATO, wedi mynegi ei dicter unwaith eto; mynegodd brenhines Gwlad Iorddonen fod y rhyfel ar sifiliaid Gaza yn annynol. Ar 6 Ionawr roedd George Bush yn dal i gefnogi Israel a'r feirniadaeth o Barack Obama am ei ddiffyg ymateb yn cynyddu. Cynigiodd Tony Blair fel Cennad i'r Dwyrain Canol fod rhaid i'r cyflenwad arfau honedig dros ffin Gaza-Yr Aifft (twnelau Rafah) stopio cyn y byddai gobaith am gadoediad; dyma bolisi newydd Israel a gyhoeddwyd ar y diwrnod hwnnw hefyd (yn ogystal ag atal saethu taflegrau at Israel).

Parhaodd y protestiadau dros y dyddiau canlynol mewn sawl gwlad ar draws y byd. Ond yn yr Unol Daleithiau roedd y gefnogaeth i Israel yn aros yn uchel. Ataliodd UDA ei phleidlais pan basiwyd Penderfyniad 1860 (gweler isod) yn y CU. Yn y Congres a Thŷ'r Cynrychiolwyr pasiwyd cynnig ar y 10fed o Ionawr yn mynegi cefnogaeth ddiamod yr Unol Daleithiau i Israel; phleidleisiodd neb o gwbl yn ei erbyn yng Nghongres a dim ond 5 allan o 395 Cynrychiolwr a bleidleisiodd yn ei erbyn yn yr ail siambr.[56][57]

Ymdrechion diplomyddol i atal y rhyfel[golygu]

Yn fuan ar ôl i'r ymladd ddechrau, aeth Nicolas Sarkozy, Arlywydd Ffrainc, i'r Dwyrain Canol i siarad â rhai o arweinwyr yr ardal er mwyn ceisio trefnu cadoediad. Cafodd drafodaethau yn Jeriwsalem, a Damascus ac yna aeth i'r Aifft i drafod y sefyllfa gyda Hosni Mubarak, Arlywydd yr Aifft. Ar y 7fed o Ionawr cyhoeddwyd fod Israel ac Awdurdod Cenedlaethol Palesteina wedi cytuno ar egwyddorion cadoediad a bod Israel am roi ffenestr o 3 awr o gadoediad bob dydd er mwyn i gymorth dyngarol allu mynd i mewn i Lain Gaza: gweithredwyd hyn o 1100 hyd 1400 UTC ar y 7fed. Ond doedd dim sôn am Hamas yn y cytundeb ac roedd y camrau ymarferol tuag at gael cadoediad parhaol eto i'w gweithio allan.[58] Ar yr un diwrnod â chytuno a chadoediad dyddiol dros dro, fodd bynnag, yn ôl AFP cytunodd Cabinet Israel ar ddiwedd y prynhawn i ehangu'r ymosodiad ar Gaza gan sôn am "drydedd ran" yr ymladd a fyddai'n cynnwys anfon rhagor o filwyr Israelaidd yn ddyfnach i mewn i Gaza.[59]

Yn oriau mân y bore ar y 9fed o Ionawr 2009 pasiodd Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig benderfyniad brys yn galw am gadoediad. Roedd Penderfyniad 1860 yn llai grymus o lawer na'r drafftiau cynharaf a roddwyd ger bron y Cyngor gan Libya ar ran y Cynghrair Arabaidd. Ataliodd yr Unol Daleithiau, a gynrychiolwyd gan Condoleeza Rice, ei phleidlais.[22] Ymateb llywodraeth Israel yn nes ymlaen ar yr un diwrnod oedd cyhoeddi fod y penderfyniad yn "anweithredadwy" a'i bod yn cychwyn trydedd ran yr "Ymgyrch Plwm Bwrw" sy'n golygu anfon ei milwyr yn ddyfnach i mewn i ddinasoedd Llain Gaza.

Ar drydydd ffrynt diplomyddol, mae cynrychiolwyr llywodraethau Iran, Indonesia (y wlad Fwslwmaidd fwyaf yn y byd o ran poblogaeth) a Syria wedi cynnal trafodaethau â llywodraethau yn yr ardal. Mae Qatar yn gefnogol i'r symudiad hyn ac mae Twrci mewn cysylltiad hefyd. Ar gais Qatar, cynhaliwyd Cyfarfod Arbennig o'r Cynghrair Arabaidd - gyda rhai gwledydd yn absennol, yn enwedig yr Aifft a Saudi Arabia - yn ninas Doha ar y 16eg o Ionawr. Siaradodd Khaled Meshaal, arweinydd Hamas. Roedd arlywyddion Twrci ac Iran yn bresennol hefyd. Cyhoeddodd y gwledydd yn y Cyfarfod fod Israel "yn gyfrifol am droseddau" a'i harweinwyr "yn agored i ateb am droseddau rhyfel".[60]

Ar y 16eg o Ionawr, cyhoeddodd Israel a'r Unol Daleithiau eu bod wedi cytuno ar gynllun i atal arfau rag mynd i mewn i Gaza. Ond roedd manylion y cynllun yn aneglur a dim cyfeiriad at y llywodraeth Hamas. Mewn ymateb i gyhoeddiad arall gan Israel, ei bod yn barod i drefnu cadoediad un ochr ar unwaith ond am gadw ei milwyr yn Llain Gaza a tharo pe lawnsiwyd cymaint ag un roced oddi yno, atebodd Hamas nad oeddynt yn barod i ystyried termau cadoediad nad oedd yn cynnwys codi'r gwarchae milwrol ac economaidd ar Gaza.[61][62] Gyda'r nos ar y 17eg o Ionawr, cyhoeddodd Israel gadoediad unochrog i ddechrau am hanner nos (0000 UTC) ond parhaodd yr ymladd. Roedd Hamas, a oedd wedi cael ei anwybyddu gan Israel, yn gwrthod y cadoediad unochrog am fod Israel yn cadw ei byddin yn Llain Gaza ac yn gwrthod codi'r gwarchae.[63] ond y diwrnod canlynol cyhoeddodd Hamas a grwpiau Palesteinaidd eraill yn Gaza eu bod am gadw cadoedoad am wythnos i roi'r cyfle i filwyr Israel dynnu allan.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. http://www.webcitation.org/query?url=http://news.yahoo.com/s/ap/20081229/ap_on_re_mi_ea/ml_israel_palestinians&date=2009-01-02+21:02:01
  2. Erthygl gan y BBC ar webcitation.org
  3. The Guardian 30.12.2008
  4. "Children hit hard as Gaza toll rises" (BBC)
  5. [1] adroddiad CNN International
  6. http://news.bbc.co.uk/1/hi/world/middle_east/7841902.stm
  7. [http://news.bbc.co.uk/1/hi/world/middle_east/7918105.stm "Billions pledged to rebuild Gaza", (2009-03-02) gan BBC News
  8. "War on Gaza - Timeline" Press TV (sef 151 ar Sky gwledydd Prydain)
  9. Gwefan Ffrangeg
  10. [2]; "Most Hamas bases destroyed in 4 minutes" gan Amos Harel.
  11. [3] "A year's intel gathering yields 'alpha hits'" gan Yaakov Katz, Jerusalem Post
  12. "Hezbollah may respond to Gaza incursion" 30.12.08 Adroddiad ar Press TV
  13. "Relentless airstrikes target Gaza tunnels" 30.12.08 Press TV
  14. 14.0 14.1 14.2 "White phosphorus added to Israeli fire" 05.01.2009
  15. 'Israeli tanks enter Khan Yunis' 05.01.2009 Press TV.
  16. 16.0 16.1 "Scores killed as Gaza school hit" 05.01.2009 Al Jazeera.
  17. "Israel 3h lull aims to appease world fury?" Press TV.
  18. "Israeli warplanes pounding Rafah" Press TV.
  19. "Israel fires five rockets into Lebanon" 08.01.2009 Press TV.
  20. 20.0 20.1 20.2 "Israel attacks UN convoy amid ceasefire" 08.01.2009 Press TV.
  21. 21.0 21.1 "UN halts Gaza aid after convoy hit" 08.01.2009 Al Jazeera.
  22. 22.0 22.1 Testun llawn Penderfyniad 1860 Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig
  23. "Israel targets Press TV station in Gaza" 09.01.2009 Press TV.
  24. 24.0 24.1 Y cyhuddiadau o drosedd rhyfel yn erbyn Israel Gwefan UNHRC.
  25. "Israel intensifies naval attacks on Gaza" 11.01.2009 Press TV.
  26. "Israelis facing strong Palestinian resistance" 11.01.2009 Press TV.
  27. "Israel sends reservists into Gaza" 11.01.2009 Al Jazeera.
  28. BBC News
  29. "Intense fighting underway in Gaza City" 13.01.2009 Press TV.
  30. "Barak: Gaza operation to continue" 13.01.2009 The Jerusalem Post.
  31. "Gaza death toll passes 1000 mark" 14.01.2009 Press TV.
  32. "Israeli army masses along Lebanon border" 14.01.2009 Press TV, yn dyfynny As-Safir.
  33. "Israel shells hosptitals and UN HQ" 15.01.2009 Al Jazeera.
  34. "Israel used phosphorous on UN center" 15.01.2009 Press TV.
  35. "Israel shells hosptitals and UN HQ" 15.01.2009 Al Jazeera.
  36. "D'Escoto: Israel breaching int'l law in Gaza" 15.01.2009 Press TV.
  37. "Israel 'set to halt war on Gaza'" 16.01.2009 Al Jazeera.
  38. "Israel shells UN school in Gaza" 17.01.2009 Al Jazeera.
  39. "Olmert announces Gaza ceasefire" 17.01.2009 Al Jazeera.
  40. "Shaky truce holds in Gaza Strip. 19.01.2009 Al Jazeera.
  41. Fideo: "Gazans return to rubble" 19.01.2009 Al Jazeera.
  42. "UNICEF: Measures Must Be Taken to Protect Children" 14.01.2009 Wafa.
  43. "Shaky truce holds in Gaza Strip. 19.01.2009 Al Jazeera.
  44. Fideo: Bomiau ffosfforws gwyn yn ffrwydro dros Gaza Al Jazeera.
  45. "'Phosphorus' fears over Gaza wounds" 11.01.2009 Al Jazeera.
  46. "Israel shells UN school in Gaza" 17.01.2009 Al Jazeera.
  47. "Israel accused of Gaza 'genocide'" 14.01.2009 Al Jazeera.
  48. Datganiad Arlywydd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig: "To the 32nd Plenary Meeting of the 10th Emergency Special Session on the Illegal Israeli Actions in Occupied East Jerusalem and the Rest of the Occupied Palestinian Territory" 15.01.2009 Gwefan Y Cenhedloedd Unedig.
  49. "UNHRC votes to condemn Israel for Gaza op" 12.01.2009 The Jerusalem Post.
  50. Fideo: "Gaza's desruction revealed" 20.01.2009 Al Jazeera.
  51. "Ban demands probe into Gaza attacks" 20.01.2009 Al Jazeera.
  52. "U.N. Security Council calls for end to Gaza violence" Reuters
  53. [http://www.presstv.ir/detail.aspx?id=79854&sectionid=351020204 "'Turkey no longer mediating for Israel" 29 Rhagfyr 2008 Press TV
  54. BBC Wales: "Welsh protests over Gaza violence"
  55. 55.0 55.1  Milwyr Israel ar Lain Gaza. BBC Cymru'r Byd (4 Ionawr, 2009). Adalwyd ar 4 Ionawr, 2008.
  56. "US congress votes to back Israel" 10.01.2009 Al Jazeera.
  57. Fideo: "US politicians back Israel" 10.01.2009 Al Jazeera.
  58. "France 'delighted' by reaction to Gaza truce plan" 07.01.2009 Press TV.
  59. "Israel OKs Gaza ground assault expansion" 07.01.2009 Press TV yn dyfynnu AFP.
  60. "Israel 'set to halt war on Gaza'" 16.01.2009 Al Jazeera.
  61. "Israel 'set to halt war on Gaza'" 16.01.2009 Al Jazeera.
  62. "Israel wants troops in Gaza after truce" 16.01.2009 Press TV.
  63. "Olmert announces Gaza ceasefire" 17.01.2009 Al Jazeera.

Dolenni allanol[golygu]