Ymosodiad Israel ar lynges ddyngarol Gaza 2010

Oddi ar Wicipedia
Ymosodiad Israel ar lynges ddyngarol Gaza 2010
Enghraifft o'r canlynolAnghydfod diplomyddol, môr-ladrad Edit this on Wikidata
Dyddiad31 Mai 2010 Edit this on Wikidata
Lladdwyd10 Edit this on Wikidata
Olynwyd ganGaza flotilla raid 2012 Edit this on Wikidata
Lleoliaddyfroedd rhyngwladol Edit this on Wikidata
Map
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Protest ym Melffast, Iwerddon, 31 Mai, 2010 yn erbyn ymosodiad Israel.
Y cwch o Dwrci, y Mavi Marmara, wythnos cyn i gomandos Israel ymosod arni.
Map o Lain Gaza gan ddangos y porthladd Ashdod.
Llun o'r ffilm o'r llong. Honnir i'r llun ddangos un o filwyr Irael yn cael ei daro gan yr ymgyrchwyr. Ffynhonnell:IDF Footage
Cartwn gan y cartwnydd gwleidyddol Carlos Latuff.

Ar 31 Mai, 2010 ceisiodd chwech o gychod dyngarol gludo nawdd a chymorth i drigolion Llain Gaza; llynges wedi'i threfnu gan Mudiad Rhyddid i Gaza, sef cymdeithas ryngwladol sy'n dadlau dros hawliau dynol y Palesteiniaid gyda phobl megis Desmond Tutu a Noam Chomsky yn flaenllaw ynddi. Ymosododd milwyr o lynges Israel ar un o'r cychod, sef y MV Mavi Marmara[1] o Dwrci gan ladd rhwng 10 ac 16 o sifiliaid.[2][3] Roedd y llongau mewn dyfroedd rhyngwladol ar y pryd. Credir fod tua 60 wedi eu hanafu, ond mae Israel wedi rhoi gwaharddiad ar i'r cyfryngau gyhoeddi dim am yr ymosodiad. Mewn canlyniad, mae union amgylchiadau'r digwyddiad yn ansicr. Yn ôl yr ymgyrchwyr ar y llong, daeth y milwyr Israelaidd ar fwrdd y llong a dechrau saethu.[4] Fodd bynnag, dywedododd Llu Amddiffyn Israel fod o leiaf saith milwr wedi eu hanafu mewn sgarmes, dau ohonynt yn ddifrifol, ar ôl i'r ymgyrchwyr dyngarol geisio cipio'u harfau.[5] Honnodd byddin Israel i'r ymgyrchwyr ddefnyddio pastynau a chyllyll yn erbyn y milwyr hefyd, er nad oedd yr un gwn wedi ei ddarganfod ar fwrdd y llong.[5]

Cafwyd gwrthwynebiad cryf yn erbyn ymosodiad Israel ar y llongau cymorth gan nifer helaeth o wledydd. Dywedodd Prif Weinidog Twrci, Recep Tayyip Erdoğan, fod Israel wedi gweithredu fel "terfysgwyr annynol" ac "na ddylai neb feddwl y gwnawn gadw'n dawel yn wyneb hyn."[3]

Yn ôl yr Israeliaid roeddent wedi gofyn i gapten y cwch fynd i borthladd Ashdod i'w archwilio rhag ofn ei fod yn cludo arfau yn ogystal ag anghenion dyngarol.[6] Enw'r ymosodiad gan fyddin Israel oedd 'Ymgyrch gwynt awyr' (Saesneg: Operation Sky Winds).

Rhyddhau'r teithwyr[golygu | golygu cod]

Rhyddhawyd Kevin Neish gan yr Israeliaid ar ôl 5 diwrnod mewn carchar. Dywedodd Neisha, sydd o Ganada, "Llofruddiwyd 16 o bobl ar y cwch, nid 9. Tra yn y ddalfa, dywedwyd wrthyf sawl tro y byddwn yn cael fy lladd; mae'r hyn a wnaeth yr Israeliaid i rai eraill o'r criw yn llawer iawn gwaeth."[7]

Post mortem[golygu | golygu cod]

Mae post mortem ar naw o'r teithwyr a lofruddiwyd wedi profi fod pump wedi eu saethu naill ai yng nghefn y pen gan filwyr Israel neu yn eu cefnau, ar bellter o gyn lleied â 45 cm. Cynhaliwyd y post mortem yn Nhwrci.[8]

Y Llongau[golygu | golygu cod]

Roedd 6 llong o wahanol wledydd yn rhan o'r llynges ddyngarol:

Sifiliaid blaenllaw a chyffredin[golygu | golygu cod]

Dëllir fod oddeutu 700 o sifiliaid cyffredin ar y llongau gan gynnwys yr ennillyd Gwobr Nobel dros Heddwch, Mairead Corrigan Maguire, 25 Aelod Senedd Ewrop, aelodau o wasg y byd, 20 o bobl o wledydd Prydain a llawer iawn o Dwrci. Trefnwyd y llynges gan IHH (İnsani Yardım Vakfı) sef Corff (wedi'i ganoli yn Nhwrci) dros Iawnderau Dynol, Rhyddid a Chymorth Dyngarol).

Roedd 663 o bobl ar y cychod, a'r rheiny'n dod o 37 gwlad.[12] Dyma rai enwau adnabyddus:

Enw Cenedl Adnabyddus am...
Baner Awstralia Kate Geraghty Awstralia Ffotograffydd efo'r Sydney Morning Herald
Baner Awstralia Paul McGeough Awstralia Newyddiadurwr efo'r Sydney Morning Herald
Baner Brasil Iara Lee Brasil Gwneuthurwr Ffilm o Frasil
Baner Yr Almaen Annette Groth yr Almaen Aelod o Bundestag yr Almaen
Baner Yr Almaen Inge Höger Yr Almaen Aelod o Bundestag yr Almaen
Baner Yr Almaen Norman Paech yr Almaen Cyn-aelod o Bundestag yr Almaen
Baner Gweriniaeth Iwerddon Aengus Ó Snodaigh Iwerddon Aelod o Senedd Iwerddon
Baner Israel Haneen Zoubi Israel Aelod Israeli-Arab o Knesset
Baner Israel Raed Salah Israel Arweinydd Cangen y Gogledd o'r "Islamic Movement in Israel"
Baner Coweit Waleed Al-Tabtabaie Ciwait Aelod o Senedd Ciwait.
Baner Libanus Abbas Nasser Libanus Newyddiadurwr o gwmni teledu Al Jazeera
Baner Pacistan Raza Agha Pacistan Cynhyrchydd Sianel Newyddion AAJ TV
Baner Pacistan Talat Hussain Pacistan Newyddiadurwr o Bacistan a Phrif Gyfarwyddwr
Baner Palesteina Hilarion Capucci Palestina Cyn-Archesgob o Gesarea ar ran catholigion Groeg
Baner Qatar Jamal Elshayyal Qatar Cynhyrchydd Al Jazeera Saesneg-ei-iaith
Baner Rwsia Nadezhda Kevorkova Rwsia Newyddiadurwr o Rwsia
Baner Sweden Edda Manga Sweden Hanesydd o Sweden
Baner Sweden Henning Mankell Sweden Awdur o Sweden
Baner Sweden Dror Feiler Sweden Arlunydd Sweden-Israelaidd
Baner Sweden Mattias Gardell Sweden Hanesydd o Sweden
Baner Sweden Mehmet Kaplan Sweden Aelod o Senedd Sweden
Sinan Albayrak Twrci TActor o Dwrci
Baner Emiradau Arabaidd Unedig Abbas Al Lawati UAE Newyddiadurwr o Dwbai
Baner Emiradau Arabaidd Unedig Hassan Ghani Yr Emiradau Arabaidd Unedig Cynhrchydd rhaglenni dogfen a newyddiadurwr o'r Alban.
Baner Gweriniaeth Iwerddon Baner Y Deyrnas Unedig Mairead Corrigan Maguire Y Deyrnas Unedig ac Iwerddon Enillydd Gwobr Nobel o Iwerddon
Baner Gweriniaeth Iwerddon Denis Halliday Iwerddon Cyn Ysgrifennydd Cynorthwyol y cenhedloedd Unedig[13]
Baner Y Deyrnas Unedig Theresa McDermott Y Deyrnas Unedig Merch o'r Alban a garcharwyd gan yr Israeliaid am geisio dod a chymorth i Gaza yn 2009.
Baner Unol Daleithiau America Joe Meadors yr Unol Daleithiau morwr a ddioddefodd yn arw pan ymosododd Israel ar yr SS Liberty [14]
Baner Unol Daleithiau America Edward Peck yr Unol Daleithiau Cyn Llysgennad yr Unol Daleithiau i Irac

MV Rachel Corrie[golygu | golygu cod]

Ar y 5ed o Fehefin, 2010 glaniodd milwyr Israel ar fwrdd yr MV Rachel Corrie, ond y tro hwn, ni chafwyd trais. Yn Iwerddon y cofrestwyd y cwch a'r capten yw Eric Harcus, o Ynysoedd Erch, yr Alban. Aethpwyd a'r cwch i borthladd Israelaidd Ashdod.[15] Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Iwerddon y bydden nhw'n dial yn ddiplomyddol yn erbyn Israel am gipio'r cwch mewn dyfroedd rhyngwladol. Enwyd y cwch ar ôl myfyriwr a laddwyd gan deirw-dur yn 2003 tra'n ceisio atal cartref Palesteinaidd rhag cael ei ddymchwel yn Gaza gan filwyr Israel. Trefnwyd y cwch gan Fudiad Rhyddid i Gaza.[16]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Erthygl: "The Gaza Freedom flotilla" yn The Guardian; 01 Mehefin, 2010
  2. "gan Edmund Sanders; Teitl: "At least 10 die as Israel halts aid flotilla"; Los Angeles Times". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-05-31. Cyrchwyd 2010-06-01.
  3. 3.0 3.1 Times Online
  4. "Deaths as Israeli forces storm Gaza aid ship" BBC News, 31 Mai 2010.
  5. 5.0 5.1 Israel Navy commandos: Gaza flotilla activists tried to lynch us Haaretz.com 31-05-2010. Adalwyd ar 02-06-2010
  6. Papur dyddiol Israel: Haaretz
  7. CTV News, British Columbia
  8. Gwefan y Guardian; Adalwyd ar 06/06/2010
  9. ""As American as Apple Pie", gan Greta Berlin, freegaza.org, 30-05-2010". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-06-03. Cyrchwyd 2010-05-31.
  10. "The Richmonder". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-11-08. Cyrchwyd 2010-06-01.
  11. "Irish captives' fate unknown after Gaza strike
  12. 'Israel to deport all activists seized on Gaza flotilla'
  13. "Israel to deport activists detained after flotilla raids" ; 01 Mehefin, 2010 ym mhapur dyddiol The Irish Times.
  14. USS Liberty
  15. Gwefan y BBC.
  16. "AJC". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-06-05. Cyrchwyd 2010-06-05.